Creu propiau effeithiau arbennig ffisegol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu propiau ar gyfer eu defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol.
Bydd yn disgwyl i chi ymchwilio unrhyw gynlluniau, gan gadw o fewn y cyfnod dylunio, ac unrhyw ffiniau cywirdeb eraill a fynnir gan y cynhyrchiad. Bydd yn gofyn am wybodaeth am ddeunyddiau y gellir eu defnyddio, fel bwydydd replica, propiau meddal, propiau hanesyddol a modelau gwyddonol
Bydd angen i chi nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, ffynonellu deunyddiau a chreu propiau sy'n ateb y gofynion. er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi ddeall egwyddorion mowldio, cerflunio a cherfio. Bydd angen hefyd i chi ddangos gwybodaeth ynghylch gweithio gydag ystod eang o ddeunyddiau gan gynnwys plaster, GRP, resin, rwber, polysteirin ac ewyn, a bod yn
abl i gymhwyso'r technegau mowldio, cerflunio a cherfio priodol i'r pethau hyn.
Mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu propiau effeithiau arbennig ffisegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu propiau effeithiau arbennig ffisegol yn unol â manyleb y cynhyrchiad a chyfyngiadau cyllidebol
- nodi gofynion deunyddiau ac adeiladu, gan gynnwys meintioli'n fwy neu'n llai yn ôl y galw i gwrdd â gofynion
- ffynonellu deunyddiau priodol ar gyfer y propiau sy'n cael eu creu
- darparu dogfennaeth sy'n manylu ar y deunyddiau, cydrannau a'r technegau sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu propiau i bobl berthnasol
- creu propiau'n unol â ffotograffau, darluniadau, brasluniau neu ddeunydd gweledol a ddarparwyd
- paratoi fframweithiau sy'n addas ar gyfer modelu
- creu modelau 3D a maquettes mewn graddfa briodol ac o ddeunyddiau priodol i brofi dyluniadau
- cynhyrchu cynhyrchion maint llawn sy'n cymryd i ystyriaeth unrhyw addasiadau fydd angen eu gwneud o ganlyniad i'r profi
- dogfennu pob agwedd ar asesu a rheoli risg mewn fformatau priodol
- gwneud eich gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch, gan weithredu os na ddilynir gofynion diogelwch gan eraill
- cynnal diogelwch y cast a'r criw bob amser
- darparu atebion amgen o fewn y gyllideb a'r amserlen os na ellir cynhyrchu propiau i'r dyluniadau neu'r cyllidebau gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ymchwilio gwybodaeth ffynhonnell ddigonol i greu propiau effeithiau arbennig ffisegol
- y dull o ddefnyddio darluniau, brasluniau, ffotograffau a deunydd gweledol wrth fanylu ar ddeunyddiau a gofynion adeiladu, a sut i'w cynhyrchu
- manyleb sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer y prop effeithiau arbennig ffisegol
- y deunyddiau a'r arddulliau gwahanol a ddefnyddir wrth fodelu a cherflunio ar gyfer propiau effeithiau arbennig ffisegol, a sut y gellir eu cyfuno i fowldio a chastio
- egwyddorion modelu, castio a mowldio o ddarn gwreiddiol
- sut i greu patrymau o bropiau gwreiddiol
- sut y mae'r mecanweithiau mewnol a ddefnyddir mewn modelau neu bropiau'n cael eu defnyddio i greu effeithiau
- anatomi pobl ac anifeiliaid
- technegau a deunyddiau castio o fywyd a'r ystyriaethau diogelwch sydd ynghlwm â hynny
- y broses ddylunio, yn benodol sut i drosglwyddo cyfeiriad 2 Ddimensiwn yn wrthrych 3 Dimensiwn
- sut y mae animatroneg yn gweithio ar y cyd â'r broses fodelu
- y mathau gwahanol o ddymis i'w defnyddio; difywyd, cymalog a gweithredol, oedolion, babis, plant, anifeiliaid
- egwyddorion pwnsio a gorffen gwallt
- egwyddorion gorffen drwy beintio a lliwio
- sut i gynhyrchu fframwaith i gefnogi ffurf a fodelwyd gan ddefnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r dasg
- pa adrannau y mae angen cysylltu'n rheolaidd â nhw i sicrhau y bydd modelau a phropiau'n cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn ddiogel
- y dulliau o amrywio maintioli graddedig o bropiau sy'n bodoli i greu meintio i fyny/ i lawr ar fodelau
- yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol