Creu effeithiau mecanyddol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i greu effeithiau mecanyddol, gan gynnwys defnyddio animatroneg.
Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych chi'r wybodaeth angenrheidiol i weithio yn y maes hwn o beirianwaith mecanyddol. Mae hefyd yn cymryd yn ganiataol fod gennych ddealltwriaeth o effeithiau ffisegol arbennig a'r rhan y gall peirianneg fecanyddol ei chwarae yn y maes gwaith hwn.
Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau arbennig mecanyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu effeithiau mecanyddol yn unol â manyleb cynhyrchu a chyfyngiadau cyllideb
- gweithio ar y cyd â phobl berthnasol o adrannau allweddol eraill i sicrhau fod yr effeithiau a gynhyrchwyd yn cwrdd â gofynion cynhyrchu
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ddehongli unrhyw ddyluniadau neu ddehongliadau gweledol a ddarparwyd gan y tîm cynhyrchu i greu effeithiau
- darparu unrhyw ddyluniadau neu ddogfennaeth effeithiau i bobl berthnasol
- ffynonellu deunyddiau priodol ar gyfer effeithiau mecanyddol sy'n cael eu creu
- cynnal iechyd a diogelwch cast a chriw bob amser
- cadarnhau fod pob gwaith mecanyddol yn cwrdd â phrotocolau iechyd a diogelwch cyfredol a darparu dogfennaeth i'r perwyl hwnnw
- dangos ystod eang o dechnegau a dulliau i gyrraedd yr effaith mecanyddol a ddymunir
- cofnodi a dogfennu profion mewn fformatau priodol, gan ddarparu'r rhain i'r adran gynhyrchu ar gyfer adborth
darparu atebion a dyluniadau amgen os na ellir cynhyrchu'r effeithiau o fewn y dyluniad, cyllideb neu amserlen wreiddiol
cysylltu ag adrannau eraill i sicrhau fod unrhyw gerbydau'n cael eu paratoi mewn modd sy'n lleihau risg
- cadarnhau fod mesurau diogelwch a dogfennaeth angenrheidiol yn eu lle wrth weithio gydag eitemau dan bwysau a falfiau gwaith pibelli
- dogfennu pob agwedd ar asesu a rheoli risg mewn fformatau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith ffisegol arbennig
- sut i ddefnyddio peirianneg fecanyddol i greu propiau cynhyrchu, effeithiau a styntiau
- deunyddiau adeiladu ac ystod eang o dechnegau, gan gynnwys sut i ddethol dulliau atodi priodol
- technolegau traddodiadol a blaengar ar gyfer torri a siapio
- mecanwaith llifeiriol
- cyfrifo grymoedd
- dylunio mecanweithiau amrywiol
- peiriannau, gyrwyr, eu cydrannau a sut y defnyddir pob un i greu effeithiau
- sut y gall toriadau-i-ffwrdd a mecanweithiau rhyddhau weithio a phrotocolau diogelwch wrth eu defnyddio
- gwybodaeth am daflegrau a'u bwa taflu
- sut y gweithredir effeithiau mecanyddol a sut y maen nhw'n ymateb mewn amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys o dan ddŵr
- sut i weithredu effeithiau mecanyddol o fewn i brotocolau diogelwch priodol, gan gadw at safonau a deddfwriaeth gyfredol y diwydiant
- y ddeddfwriaeth a'r mesurau diogelwch sy'n bodoli ar gyfer gweithio gydag eitemau dan bwysau a falfiau gwaith pibelli
- rigiau camera a sut y gellir eu defnyddio
- sut i ddefnyddio cawelli rholio a pharatoi cerbydau ar gyfer styntiau
- technolegau cyfredol a datblygol a sut y gellir defnyddio'r rhain i greu effeithiau mecanyddol
- sut y gall CAD, CAM ac argraffu 3D weithio ar y cyd i ddylunio a chreu modelau mecanyddol
y prosesau gweithgynhyrchu a ddefnyddir mewn mecanwaith, gan gynnwys weldio codedig
yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol