Creu effeithiau prosthetig
URN: SKSPSFX07
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu prostheteg ar gyfer ei ddefnyddio mewn cynhyrchiad.
Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych chi'r wybodaeth a'r gallu i greu prosthetegau a dealltwriaeth drylwyr o'r peryglon cysylltiedig.
Bydd angen i chi fod yn gallu cynllunio, cerfio, mowldio, rhedeg a gosod prosthetegau. Bydd angen i chi weithio ar y cyd â phersonél cynhyrchu amrywiol, yn enwedig â'r adran wisgoedd, propiau a styntiau, er mwyn creu'r effaith a ddymunir.
Bydd y Safon hon yn briodol i chi os ydych chi'n creu ac yn gweithredu prosthetegau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu â phobl ac adrannau priodol ynghylch gofynion prosthetig
- defnyddio ffynonellau dibynadwy i ymchwilio effeithiau prosthetig sy'n ddilys a phriodol
- creu offer prosthetig yn unol â gofynion cynhyrchu, sgript / manyleb, a chyllideb
- paratoi creiddiau a chastiau sy'n addas i weithio ohonynt
- gwneud y mowldio a'r castio terfynol ar ddarnau prosthetig gan ddefnyddio deunyddiau priodol i gwrdd â gofynion cynhyrchu
- darparu dogfennaeth yn ôl y galw, sy'n amlinellu unrhyw weithdrefnau diogelwch angenrheidiol
- cynnal diogelwch y cast a'r criw bob amser
- sicrhau fod unrhyw fasgiau tân yn cael eu gwneud i drwch digonol a'u bod yn gallu cael eu rhyddhau'n gyflym
- cysylltu â phobl berthnasol a chydweithio gyda nhw i sicrhau fod pob effaith brosthetig yn ddiogel bob amser
- monitro pobl sy'n defnyddio'r prosthetegau bob amser er mwyn sicrhau nad oes ymateb alergaidd, newidiadau gormodol i dymheredd y corff neu effeithiau ar eu gallu i weithredu'n ddiymdrech
- gweithredu'n ddi-oed ac yn unol â chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch yn achos digwyddiad sy'n gysylltiedig ag effaith brosthetig ar set neu mewn gweithdy
- tynnu prosthetegau i ffwrdd yn unol â gofynion diogelwch
- darparu atebion amgen yn unol â gofynion cynhyrchu a chyllideb os na ellir cynhyrchu prosthetegau i'r dyluniad neu'r gyllideb wreiddiol
- dogfennu asesiad a rheoli risg mewn fformatau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- â phwy i gysylltu yn yr adran gynhyrchu, ac yn enwedig yn yr adrannau gwisgoedd, propiau, effeithiau arbennig a styntiau, ynghylch y prosthetegau sydd eu hangen a'u gofynion diogelwch
- doluriau, clwyfau, ysgythriadau ac anatomi dynol
- sut i ddefnyddio cynhyrchion gwaed ffug a rigiau gwaed
- y tymheredd corfforol cywir i'w gynnal wrth ddefnyddio gwisgoedd creaduriaid
- sut i ymchwilio i brosthetegau penodol i sicrhau eu bod yn ddilys ac yn briodol ar gyfer gofynion sgript
- technegau penodol i'w defnyddio ar gyfer prosthetegau heneiddio
- y prosesau i'w cynnal i wneud castiau bywyd a'r deunyddiau sydd eu hangen ar eu cyfer
- deunyddiau a thechnegau cerflunio, mowldio a chastio
- pwysigrwydd masgiau tân a'r modd y'u cynhyrchir ar gyfer eu defnyddio wrth losgi corff stỳnt
- cyflenwadau ac offer aer
- y deilliannau posib o beidio â defnyddio deunyddiau'n briodol neu'n gywir a'r mesurau i'w cymryd yn syth
- darpar effeithiau alergaidd a all ddigwydd wrth ddefnyddio prosthetegau, sut i'w hadnabod a sut i weithredu'n briodol
- sut i gynnal profion eang mewn amgylchedd gweithdy priodol a phwysigrwydd gwirio pob prawf a ddogfennwyd neu a roddwyd ar fideo i osgoi perygl diangen
- sut i dynnu colur/prosthetegau'n ddiogel
- animatroneg a'i ddefnydd wrth greu effeithiau arbennig prosthetig
- yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSSFX07
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Prosthetig, Gwallt, Colur, Effeithiau, Gweledol, Iechyd a diogelwch