Creu effeithiau bychain

URN: SKSPSFX06
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i greu effeithiau bychain.

Bydd yn gofyn am ddealltwriaeth o offer camera, gan gynnwys lensys, fformatau a mowntiau, a chyswllt agos â'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, er mwyn deall sut y bydd yr effeithiau bychain yn cael eu ffilmio.

Bydd hefyd yn gofyn i chi ddeall adeiladu, trin digidol ac effeithiau gweledol.

Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych ddealltwriaeth o byrotechneg a'ch bod chi'n gallu gweithio'n agos gydag aelodau'r tîm pyrotechneg i ddarparu'r effaith yn ddiogel ac effeithiol. 

Bydd yn gofyn i chi gysylltu â'r gwneuthurwyr priodol ac mewn rhai achosion ddefnyddio Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Cynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM) neu argraffwyr 3D i gynhyrchu'r modelau angenrheidiol.

Mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau arbennig bychain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu effeithiau bychain yn unol â manyleb y sgript gynhyrchu, gofynion cynhyrchu, cyfyngiadau a chyllideb
  2. ymgynghori â phenaethiaid adran priodol i gadarnhau fod effeithiau bychan yn cwrdd â gofynion ar ôl eu cwblhau
  3. cysylltu â phersonél cynhyrchu perthnasol ac awdurdodau gorfodi i sicrhau fod effeithiau'n ddiogel ac yn cydymffurfio'n gyfreithiol
  4. darparu dogfennaeth i bobl berthnasol mewn fformatau priodol i fanylu ar sut y bydd effeithiau bychain yn cael eu dylunio a'u cyflawni
  5. sicrhau fod effeithiau bychain yn cael eu gweithgynhyrchu a'u graddio o ran maint i gwrdd â gofynion cynhyrchu
  6. sicrhau fod unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol yn cael ei greu a'i gadw'n unol  â rheoliadau
  7. ffynonellu deunyddiau priodol ar gyfer yr effeithiau bychain sy'n cael eu cynhyrchu
  8. cynnal iechyd a diogelwch y cast a'r criw bob amser
  9. cydweithio gyda thechnegwyr pyrotechnig i greu effeithiau pyrotechnig sy'n cwrdd â gofynion cynhyrchu a diogelwch
  10. cydweithio â thechnegwyr CAD, CAM neu argraffu 3D i gynhyrchu unrhyw fodelau gofynnol yn unol â gofynion cynhyrchu
  11. dogfennu pob agwedd ar asesu a rheoli risg mewn fformatau gofynnol
  12. darparu atebion amgen o fewn y gyllideb a'r amserlen os na ellir cynhyrchu effeithiau i'r dyluniad neu gyllideb wreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith ffisegol arbennig
  2. deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau'r diwydiant ar gyfer creu effeithiau bychain
  3. cyflymder ffilm, fformatau fframiau a chymarebau
  4. y gwahaniaeth rhwng camerâu teledu a ffilm a'u manteision ac anfanteision
  5. sut i ddefnyddio camerâu a'u hoffer atodol
  6. onglau lensys a'r egwyddorion sylfaenol a gysylltir â nhw
  7. mowntiau camerâu a'r modd y maen nhw'n amrywio
  8. pwysigrwydd graddoli maint a phersbectif a sut y defnyddir y rhain i greu effeithiau gwahanol
  9. sut i ddarllen delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur, triniaeth ddigidol a darluniadau technegol
  10. deunyddiau addas a sut i'w ffynonellu, ar gyfer eu defnyddio ar yr effeithiau bychain
  11. sut y gellir creu modelau prop digidol a'i hallyrru i'r broses gynhyrchu, boed yn fewnol neu allanol
  12. pyrotechnegau, dŵr a thân a sut y maen nhw'n cael eu graddoli o ran maint ar gyfer eu defnyddio mewn effeithiau bychain
  13. yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX06

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur, Dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, Ymarfer gweithdy, Effaith atmosfferig, Effaith tân ymarferol, Effaith ffrwydrol, Cyllidebau, Datgymalu