Creu effeithiau tân ymarferol
URN: SKSPSFX05
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i ddylunio a chynhyrchu effeithiau tân ymarferol.
Mae'n gofyn am wybodaeth am ddulliau tanio a diffodd a rheoli iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â'r gwaith hwn. Bydd angen i chi fod yn llwyr ymwybodol o'r gweithdrefnau a'r protocolau ym maes cynnau, rheoli a diffodd tân ymarferol.
Nid yw'r Safon hon yn ymwneud â pheli tân ffrwydrol; daw'r rheini o dan gochl pyrotechneg.
Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau tân ymarferol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu effeithiau tân ymarferol yn unol â manyleb sgript gynhyrchu a chyfyngiadau cyllidebol
- gwirio fod y lleoliad yn addas i gynhyrchu effeithiau tân
- defnyddio'r deunyddiau mwyaf priodol i greu effeithiau tân
- ymgynghori gyda phersonél cynhyrchu allweddol a chyfathrebu pob agwedd o'r dyluniad iddynt
- cyfnewid gwybodaeth glir gyda phob adran sy'n ymwneud â'r effeithiau
- ffynonellu, prynu, dosbarthu a storio deunyddiau a reoleiddir yn unol â deddfwriaeth gyfredol
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu effaith effeithiau ar leoliad a'i amgylchedd
- darparu arweiniad ar bob agwedd o iechyd a diogelwch i'r penaethiaid adran perthnasol a'u personél cynhyrchu
- sicrhau fod darpariaeth ddigonol ar gyfer diogelwch cast a chriw yn unol â deddfwriaeth
- cyflogi criw cymwys sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad priodol ar gyfer y gwaith
- cynnal a chadw cofnodion am ddeunyddiau a ddefnyddiwyd, cyflenwi a storio mewn ffurfiau priodol
- cysylltu â chyrff perthnasol ac awdurdodau gorfodi i sicrhau fod pob protocol cyfreithiol yn cael ei ddilyn
- cynghori pobl berthnasol pan fydd angen offer diogelu personol
- sicrhau fod diogelwch priodol a chymwys rhag tân ar gael
- cofnodi pob agwedd ar asesu a rheoli risg yn y fformatau gofynnol, gan ddarparu dogfennaeth i eraill yn ôl y galw
- sicrhau fod pob deunydd a ddefnyddir yn cael eu gwaredu'n unol â gofynion cyfreithiol a chynhyrchu
- sicrhau fod lleoliadau'n cael eu hadfer i'r cyflwr gofynnol
- darparu atebion amgen o fewn cyllideb ac amserlen pan na ellir cynhyrchu effeithiau i'r dyluniad neu'r gyllideb wreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith tân
- yr ystod o effeithiau tân ymarferol a sut i'w cyflawni
- y camau a gymerwyd i greu corff llosgi stỳnt
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau'r diwydiant y dylid cydymffurfio â nhw wrth greu effeithiau tân ymarferol
- rôl yr adran gelf o ran setiau atal tân
- yr amgylchedd y mae'r effaith yn cael ei phrofi a'i gweithredu ynddi
- y gofynion atal a rhwystro tân angenrheidiol
- dulliau amrywiol o gynnau a diffodd
- y gwaith profi echdynnu nwyon ac awyru angenrheidiol
- nodweddion y deunyddiau llosgadwy amrywiol sydd ar gael, sut i'w defnyddio a'u hanfanteision
- sut y gellir ffynoynellu neu weithgynhyrchu deunyddiau llosgadwy
- sut i ddefnyddio pibellau dŵr, cysylltiadau a falfiau a dyfeisiadau allyrru ar gyfer effeithiau tân
- y gweithdrefnau cywir ar gyfer cyflenwi a storio deunyddiau llosgadwy
- sut i weithredu yn achos damwain neu argyfwng
- yr offer gwahanol a ddefnyddir ar gyfer tanau o feintiau a graddau gwahanol
- safleoedd gweithredu diogel ar gyfer y criw ar y set
- y lefelau priodol o bresenoldeb staff effeithiau arbennig i sicrhau diogelwch y cast a'r criw ar bob adeg
- sut i gyflogi unigolion neu arbenigwyr trydydd parti cymwys i weithio ar y cyd mewn tîm
- yr eitemau o offer diogelu personol i'w rannu ac i bwy
- sut i gysylltu â swyddogion tân lleol, a phryd y mae'n briodol gwneud hynny
- yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSSFX05
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Effaith tân ymarferol, Effaith ffrwydrol, Cyllidebau, Datgymalu