Creu effeithiau atmosfferig
URN: SKSPSFX04
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i gynhyrchu effaith atmosfferig – mae'r rhain yn cynnwys glaw, gwynt, eira, rhew, niwl a mwg. Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth drylwyr o ddeunyddiau ac offer amrywiol a ddefnyddir i greu effeithiau atmosfferig, pa rai sy'n briodol i ba leoliadau, a meddu ar brofiad o'u defnyddio'n ddiogel ac effeithiol.
Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau atmosfferig
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu effeithiau atmosfferig yn unol â manylebau cynhyrchu sgript a chyfyngiadau cyllideb
- defnyddio offer a deunyddiau sy'n briodol i'r effeithiau atmosfferig sy'n cael eu cynhyrchu
- cydymffurfio â phrotocolau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol a deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r effeithiau
- cynnal a chadw dogfennaeth sy'n dangos fod mesurau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu dilyn yn y fformatau gofynnol, gan ddarparu hyn i eraill yn ôl y galw
- cymryd pob agwedd o asesu risg i ystyriaeth a darparu dogfennaeth yn ôl y galw
- cyflogi criw cymwys â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i'r swydd
- cysylltu â phobl berthnasol i sicrhau fod holl fanylion pob effaith yn cael eu cyfathrebu i bawb sydd angen gwybod
- cynnal diogelwch y cast a'r criw bob amser
- cysylltu â thrydydd parti, cyrff a sefydliadau perthnasol i sicrhau fod cyn lleied o darfu â phosib ar wasanaethau cyfleustodau
- darparu atebion amgen o fewn y gyllideb a'r amserlen pan na ellir cynhyrchu effeithiau i'r dyluniad neu'r gyllideb wreiddiol
- sicrhau fod y setiau'n cael eu hadfer i'w hystâd angenrheidiol, gan ddarparu dogfennaeth yn ôl y galw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith atmosfferig gofynnol
- sut i ddefnyddio offer a deunyddiau i greu effaith atmosfferig
- y deunyddiau cywir i'w defnyddio i ail-greu eira, rhew, niwl a mwg
- yr ystod eang o oblygiadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol wrth gynhyrchu effeithiau atmosfferig
- graddfa maint, a sut y bydd hyn yn edrych ar gamera wrth greu'r effaith
- effaith yr effeithiau atmosfferig yr ydych chi'n gweithio arnynt ar amgylchedd y lleoliad ac isadeiledd cyfleustodau presennol
- sut i leihau tarfu ar amgylchedd a lleoliad
- sut i gyflogi unigolion neu arbenigwyr trydydd parti cymwys i weithio ar y cyd mewn tîm
- pwy yw'r criw priodol i gysylltu â nhw i sicrhau fod effeithiau'n ddiogel ac yn cael ei monitro yn ôl y galw
- protocolau a deddfwriaeth i gydymffurfio ag ef wrth gynhyrchu effeithiau atmosfferig
- sut i lanhau ar ôl creu effeithiau atmosfferig a gwaredu deunyddiau a ddefnyddiwyd
- yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol
- â phwy i gysylltu yn y tîm cynhyrchu i sicrhau fod y set yn cael ei hadfer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSSFX04
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Ymarfer gweithdy, Effaith atmosfferig, Effaith tân ymarferol, Effaith ffrwydrol, cyllidebau, Datgymalu