Gweithio mewn modd diogel ac effeithiol mewn gweithdy
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i weithio'n effeithiol, yn ddiogel ac yn gyfreithlon mewn amgylchedd gweithdy. Bydd yn golygu creu neu gynnal gofod gweithdy diogel a all fod yn barhaol neu dros dro, a chynnal eich iechyd a diogelwch eich hun a'r criw yr ydych chi'n gweithio gyda nhw ar bob adeg.
Mae hefyd yn golygu sicrhau fod y gofod yn lân, yn drefnus ac wedi'i reoli'n dda er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith. Gallai hefyd gynnwys sefydlu gofod llogi sych er mwyn gallu darparu'r gwaith angenrheidiol mewn dull effeithiol, gan gynnwys glanhau ar eich ôl a dychwelyd yr ardal i'w chyflwr blaenorol.
Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych chi wybodaeth am a phrofiad o gydweithio fel rhan o dîm.
Mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n gweithio mewn amgylchedd gweithdy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau fod gofod y gweithdy'n ddiogel ac yn anhygyrch i bobl heb awdurdod bob amser o fewn eich lefel awdurdod chi
- sicrhau fod yr amgylchedd gweithio'n ddiogel ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyfoes bob amser
- sicrhau fod offer ac eiddo'n cael eu storio yn y lleoliadau priodol pan na fyddant yn cael eu defnyddio
- cysylltu â phersonél priodol yn y tîm cynhyrchu o ran unrhyw asesiad risg angenrheidiol
- sicrhau fod pob cyfleustod ac offer wedi cael eu gosod a'u defnyddio mewn dull diogel, sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
- monitro a chynnal gwaith papur holl ffiniau diogelwch yn y gweithdy, yn unol â gofynion, gan ddarparu dogfennaeth i eraill pan fo gofyn
- sicrhau fod pob system echdynnu yn ei lle ac yn gweithredu mewn dull diogel, cydymffurfiol
- cadarnhau, drwy gysylltu â'r tîm cynhyrchu, fod lefelau priodol o yswiriant yn eu lle
- darparu dogfennaeth am yswiriant i bobl berthnasol yn ôl y galw
- sicrhau fod offer yn cael ei gynnal a'i gadw i'r safonau gofynnol
- sicrhau fod cofnodion cynnal a chadw offer wedi'u cwblhau ac yn gyfredol, gan ddarparu tystysgrifau prawf
- darparu systemau gwaredu gwastraff ac ailgylchu, yn unol â deddfwriaeth gyfredol ac arferion gweithio da
- defnyddio Offer Diogelu Personol (PPE) i sicrhau Iechyd a Diogelwch yr hunan ac eraill yn y gweithdy
- dogfennu pob agwedd ar reoli risg a rheoli mewn fformatau angenrheidiol, gan ddarparu'r rhain i eraill yn ôl y galw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd bod yn gyfarwydd â'r offer sydd gennych, neu yr ydych chi'n mynd gyda chi, i'r ardal weithiol
- ffiniau eich rôl yn yr amgylchedd gwaith a'r offer y mae'n ddiogel i chi ei ddefnyddio
- lleoliad cyflenwadau cyfleustodau, eu haddasrwydd a'r ffaith eu bod yn ddiogel
- sut i lwytho a dadlwytho offer trwm yn ddiogel
- sut i gysylltu â'r tîm cynhyrchu o ran unrhyw asesiadau risg angenrheidiol a'r effaith a gânt ar ofod y gweithdy
- yr ystod eang o fesurau Iechyd a Diogelwch ar gyfer gweithio mewn amgylchedd gweithdy a'r ddeddfwriaeth y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hi
- y gosodwaith trydanol yn yr adeilad ac effaith hynny ar y gwaith a wneir yno
- yr offer echdynnu awyr, nwyon a llwch sydd yn ei le yn y gweithdy
- sut i sicrhau eich bod chi'n storio deunyddiau'n ddiogel yn y gweithdy
- diogelwch yswiriedig yr adeilad i sicrhau ei fod yn anhygyrch i'r cyhoedd bob amser
- sut i greu ffiniau diogelwch yng ngofod y gweithdy, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, beryglon baglu a thâp rhwystro
- sut i adnabod a storio sylweddau peryglus yn gywir
- sut i greu a rheoli'r gofod gweithio a sicrhau ei fod yn cadw'n lân a threfnus bob amser
- pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r offer a'r cofnodion cynnal a chadw
pwysigrwydd defnyddio Offer Diogelu Personol (PPE) yn awyrgylch y gweithd
sut i reoli gwaredu gwastraff ac ailgylchu yn unol â deddfwriaeth gyfredol ac arferion gweithio da
- y gwahanol ofynion yswiriant ar gyfer gofodau gweithdy dros dro a pharhaol
- sut i wneud yn glir beth sy'n disgyn o dan bolisi'r cynhyrchiad neu'r cwmni
- sut y mae eich gweithredoedd chi ac eraill yn cyfrannu at drefniadaeth gofod y gweithdy