Cynllunio a dylunio effeithiau arbennig ffisegol

URN: SKSPSFX02
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â’ch gallu chi i gynllunio a dylunio effeithiau arbennig ffisegol.

Bydd yn golygu creu a datblygu effaith, gwybod pa ddeunyddiau sydd fwyaf priodol a chyfathrebu’r wybodaeth angenrheidiol i’r adran gynhyrchu. 

Bydd angen i chi weithio ar y cyd ag ystod o adrannau cynhyrchu er mwyn dylunio’r effaith a chynllunio i’w weithredu. Bydd angen hefyd i chi gydweithio â’ch tîm ac unrhyw drydydd parti, fel criwiau tân preifat, er mwyn sicrhau fod effeithiau’n cael eu gweithredu mewn modd diogel, cywir ac effeithiol. 

Mae’r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n ymchwilio, dylunio a chynhyrchu effeithiau arbennig ffisegol.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dylunio effeithiau arbennig ffisegol sy’n cwrdd â gofynion y briff a’r gyllideb a chyfyngiadau’r amserlen
P2 gweithio ar y cyd ag adrannau eraill a phersonél allweddol wrth ddylunio a chynllunio effeithiau arbennig ffisegol
P3 paratoi a chyflwyno manylebau dylunio ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol mewn fformatau disgwyliedig
P4 sicrhau fod pob agwedd ar ddyluniadau a’r modd y’u gweithredir yn cwrdd â safonau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch
P5 darparu’r dogfennau gofynnol ar ragofalon diogelwch i sefydliadau perthnasol
P6 asesu’r risgiau sydd ynghlwm a rhagnodi rhagofalon priodol i’w gwrthsefyll
P7 darparu cyngor ac arweiniad i’r tîm cynhyrchu ar adegau priodol ac mewn fformatau perthnasol ar bob agwedd ar iechyd a diogelwch ar gyfer effeithiau
P8 cadarnhau fod dyluniadau’n ymgorffori pob agwedd allweddol o effeithiau, gan gynnwys peirianwaith, cemegau a deunyddiau i’w defnyddio
P9 cysylltu â gwneuthurwyr propiau a deunyddiau i sicrhau fod pob rhan yn briodol ar gyfer yr effaith a fwriedir
P10 sicrhau fod caniatâd angenrheidiol wedi cael ei geisio a’i gadarnhau gan y tîm cynhyrchu
P11 sicrhau fod unrhyw brofi’n digwydd yn unol â gofynion diogelwch ac yn cael eu cofnodi mewn dogfennaeth briodol
P12 cofnodi pob agwedd ar asesu risg a rheoli risg mewn fformatau gofynnol, gan ddarparu dogfennaeth i eraill yn ôl y galw
P13 awgrymu a darparu dyluniadau amgen, o fewn y gyllideb a’r amserlen, pan na ellir gweithredu’r rhai gwreiddiol
P14 cyfathrebu pob agwedd ar ddyluniadau i bobl berthnasol yn eich tîm a’ch cynhyrchiad
P15 cyflogi criw cymwys sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad perthnasol ar gyfer y gwaith
P16 darparu dogfennaeth a chyfarwyddiadau mewn manylder digonol er mwyn i aelodau’r tîm allu cynhyrchu effeithiau
P17 sicrhau y bydd lleoliadau’n cael eu hadfer i gyflwr diogel ar ôl i effeithiau arbennig ffisegol gael eu gweithredu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i ymchwilio a chynllunio elfennau a deunyddiau gofynnol ar gyfer dyluniadau
K2 sut i asesu beth fydd yn ofynnol o ran deunyddiau i greu effeithiau, sut y byddan nhw’n effeithio ar effeithiau a’r rhesymeg dros eu defnyddio
K3 mecanwaith yr effeithiau a ddymunir a sut i’w hail-greu mewn dull credadwy sy’n cwrdd â deddfwriaeth ddiogelwch
K4 sut i symleiddio’r broses effeithiau arbennig ffisegol er mwyn ei wneud yn ffilm-gyfeillgar
K5 fformatau gwahanol gamerâu a manylebau technegol sydd ar gael gan gynnwys amrywiol lensys, fformatau egwyddorion a chymarebau fframio, mowntiau, onglau pob siot, dyfnder maes, egwyddorion persbectif a chyfyngiadau graddfa
K6 deddfwriaeth a chyfyngiadau cyfredol ar gyfer defnyddio effeithiau arbennig ffisegol mewn cynhyrchiad
K7 gofynion a pholisïau cyfreithiol y cynhyrchiad, gan gynnwys iechyd a diogelwch, yswiriannau, cyllidebau ac amserlenni a sut y bydd y rhain yn effeithio ar effeithiau arbennig ffisegol
K8 mesurau i’w gosod yn eu lle i sicrhau fod effeithiau’n cael eu gweithredu mewn modd diogel, cywir ac effeithiol
K9 sut i lunio a gweithredu propiau a deunyddiau gweithredol
K10 sut i ddefnyddio dymïau difywyd a rhai cymalog a’r mecanweithiau sy’n gysylltiedig â’u defnyddio
K11 sut i greu modelau a’u graddio i fyny ac i lawr o elfennau sy’n bodoli’n barod
K12 sut i ddefnyddio taflunio ffotograffig, dulliau o raddoli, sganio digidol, argraffu a phrotodeipio cyflym, deunyddiau a phrosesau
K13 manteision asesu lleoliadau ble bo’n bosib cyn dechrau gweithredu
K14 heriau profi effeithiau mewn amodau gweithdy a sut y gellir ail-greu hyn mewn lleoliadau stiwdio ac ar leoliad
K15 sut y bydd perfformwyr stỳnt yn gweithio a’r ffiniau diogelwch y mae’n rhaid iddynt weithredu o’u mewn
K16 hierarchaeth y cynhyrchiad ac i bwy y mae angen trosglwyddo gwybodaeth, ac ar ba gam yn y broses ddylunio
K17 amserlen, cyllideb, trefn weithio, cyfyngiadau a chynllunio eich adran a gofynion adrannau eraill
K18 y broses i’w dilyn i gael cymeradwyaeth i waith effeithiau arbennig ffisegol yn ystod cynhyrchiad
K19 sut i gyflogi unigolion neu arbenigwyr trydydd parti cymwys i weithio’n gydweithredol mewn tîm
K20 yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effaith ofynnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX02

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Asesiad Risg, Dylunio, Cynllunio, Cyllidebau, Datgymalu