Cynnal a chadw celfi
URN: SKSPRP9
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am gelfi, gan gynnwys sut cânt eu defnyddio a'u cynnal a chadw yn ystod cynyrchiadau a'u storio pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Mae'r safon hon hefyd yn edrych ar agweddau o iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio a thrin celfi.
Gall celfi naill ai fod yn rhai sydd wedi'u llogi, neu sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn rhain i gyd.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer pob rôl sy'n ymwneud â chelfi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu celfi yn ôl gofynion yr amserlen ffilmio
- trin celfi gyda gofal er mwyn cynnal eu cyflwr
- gwirio bod celfi mewn cyflwr diogel i'w defnyddio i ddiogelu eich hun ag eraill rhag perygl
- cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw gelfi sydd wedi'u difrodi neu â diffygion
- gwirio celfi sydd ddim yn cael eu defnyddio, cadarnhau eu bod yn addas i'r diben a'u storio yn briodol a diogel
- gwirio y bydd celfi sy'n gweithio yn gweithio trwy gydol y cyfnod ffilmio
- gwneud addasiadau a mân atgyweiriadau lle bo'n ofynnol
- cadarnhau trefniadau ar gyfer unrhyw addasiadau ac atgyweiriadau pan na fydd modd eu cyflawni ar set
- gwneud trefniadau i atgyweirio neu amnewid unrhyw beth lle bo'n ofynnol
- trin a storio celfi bwytadwy yn unol â rheoliadau hylendid
- gwirio a chadarnhau'r cyfleusterau ar gyfer storio celfi bwytadwy
- cadw eitemau yn eu lle fel bod modd eu cymryd yn ôl yn ddiogel ac yn unol ag amserlenni cynhyrchu
- storio celfi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- cadw cofnodion o leoliad a chyflwr celfi
- dychwelyd celfi a deunyddiau eraill i'r cyflenwyr, llogwyr, neu'r storfa yn eu cyflwr cytunedig ynghyd â'r ddogfennaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd a gwerth pob celficyn yn y cynhyrchiad
- gwahanol fathau o gelfi, eu nodweddion a'u defnydd
- sut i wirio bod yr holl gelfi sydd eu hangen ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
- gweithdrefnau ar gyfer diogelu'r holl gelfi
- gweithdrefnau penodol ar gyfer diogelu celfi o werth uwch
- gofynion trin a storio diogel ar gyfer gwahanol fathau o gelfi a deunyddiau
- sut i osgoi gwneud difrod i gelfi a deunyddiau eraill wrth eu gwirio
- sut i adnabod celfi diffygiol, pa gamau i'w dilyn, pwy i roi gwybod iddynt a sut i newid y ddogfennaeth
- dulliau o atgyweirio gwahanol fathau o gelfi
- trefniadau ar gyfer delio â chelfi nad oes modd eu hatgyweirio yn ystod y sesiwn cynhyrchu
- dulliau o gadw cyflwr celfi a deunyddiau
- goblygiadau costau sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch
- trefniadau ar gyfer dychwelyd celfi a deunyddiau eraill
- trefniadau ar gyfer storio, ailgylchu, neu gael gwared ar gelfi a deunyddiau eraill yn dilyn deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
- pwysigrwydd cadw cofnodion o ddefnydd celfi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP9
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; gofalu am gelfi; defnyddio a chynnal a chadw celfi; storio celfi; adolygu diogelwch celfi; dychwelyd a storio celfi;