Paratoi’r set neu leoliad ar gyfer gwaith ffilmio pob diwrnod
URN: SKSPRP7
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi setiau neu leoliad ar gyfer gyfer gwaith ffilmio pob diwrnod.
Mae'r safon hon hefyd a wnelo â chadarnhau bod yr holl gelfi sydd eu hangen ar gael.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am Gelfi wrth Gefn a Gwisgo Celfi
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu gyda staff yr adran gynhyrchu i drefnu bod y set neu leoliad ffilmio yn cael ei ddatgloi
- trefnu a gwirio ardal waith y celfi gan sicrhau bod yr holl gelfi ac offer sydd eu hangen ar gael
- defnyddio offer llaw i baratoi celfi yn ôl y gofyn
- paratoi setiau ar gyfer gwaith ffilmio pob diwrnod gan sicrhau bod yr holl gelfi wedi'u gosod yn dilyn gofynion y sgript neu gysondeb golygfeydd gan gynnwys eu cuddio os bydd angen
- gwirio bod yr holl gelfi llaw sydd eu hangen ar gael
- gwirio bod artistiaid wedi'u hyfforddi ar sut i ddefnyddio'r celfi
- gwirio celfi trydanol a sicrhau eu bod wedi pasio profion eu bod yn ddiogel i'w defnyddio gan yr adran drydanol
- ar ddiwedd pob diwrnod ffilmio, cysylltu gyda staff yr adran gynhyrchu i drefnu bod y set neu leoliad ffilmio yn cael ei gloi
- gwirio a chadarnhau bod celfi gwerthfawr neu fregus yn cael eu storio'n ddiogel
- cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y dadansoddiad sgript a'r amserlen gynhyrchu
- sut a phryd i gysylltu gydag aelodau adrannau eraill
- y cynnwys sydd ei angen mewn bocs set gan gynnwys cyfarpar ac offer glanhau
- nodweddion a gofynion amrywiol offer gan gynnwys offer trydanol a llifiau
- gofynion celfi ar gyfer pob diwrnod ffilmio
- yr offer sydd ei angen ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio offer ar set
- pa offer all fod angen eu hamnewid ar gyfer ail-ffilmio a chysondeb golygfeydd
- goblygiadau costau sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch
- a oes angen i gelfi, offer neu eitemau eraill gael eu cuddio ar set neu leoliad, a sut i wneud hynny
- sut i sicrhau diogelwch y set neu leoliad a bod yr holl gelfi wedi'u storio'n ddiogel ar y set
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP7
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; gwisgo setiau; lleoliad; dehongli cynlluniau; deunyddiau a chostau; cynyrchiadau