Gwisgo setiau ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSPRP6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â deall gofynion technegol gwisgo setiau o ystyried eu defnydd a'u diogelwch ar gyfer y criw ffilmio.
Mae'r safon hon a wnelo â dehongli brasluniau cynllun set y cynllunydd a'r cyfarwyddiadau. Bydd gofyn ichi gynllunio ar gyfer y criw, deunyddiau, offer, cyfarpar a chostau.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer Addurnwyr Setiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli brasluniau cynllun set y cynllunydd neu bobl eraill neu syniadau ar lafar a chyfarwyddiadau
- cydlynu tîm o weithwyr dyddiol i redeg set neu leoliad
- dadbacio a gwirio'r holl gelfi ddaw i law yn ôl y rhestr gelfi
- rhoi gwybod am unrhyw anghysondeb i'r bobl gywir a chael celfi eraill yn eu lle os bydd celfi ar goll neu yn anaddas i'w defnyddio
- rhoi amcangyfrifon o gostau gwisgo setiau i'r cynllunydd cynhyrchu neu bennaeth adran
- dod o hyd i griw, offer a deunydd i gwrdd â gofynion cynllunio'r cynhyrchiad
- darparu a storio'r offer sydd ei angen ar gyfer gwisgo setiau
- defnyddio a chynnal yr offer sydd ei angen ar gyfer gwisgo setiau
- defnyddio cyfarpar diogelwch personol yn ôl y gofyn
- adnabod unrhyw offer arbenigol fydd efallai ei angen ar gyfer gwisgo'r set
- cadarnhau bod yr offer wedi'i brofi a bod y gweithwyr yn gymwys i'w defnyddio
- gwisgo'r set yn dilyn gofynion ac amserlenni cynhyrchu
- rhoi ôl traul, heneiddio neu fel arall addasu celfi yn ôl y gofyn
- gosod addurniadau ar amrywiaeth o wynebau
- cynnal gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn ôl y gofyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion yr amserlen gynhyrchu
- sut i gysylltu gydag aelodau adrannau eraill a dehongli eu gofynion
- sut i ddefnyddio amrywiaeth o offer a deunyddiau yn ddiogel gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- nodweddion a gofynion gwahanol offer, gan gynnwys offer trydanol a llifiau
- nodweddion gwahanol sylweddau gan gynnwys glud a phaent
- dulliau gosod addurniadau diogel ar neu i mewn i wahanol wynebau gan gynnwys gosod lluniau gan wneud y difrod lleiaf posibl i'r lleoliad
- sut i adnabod pa offer efallai fydd angen rhoi ôl traul arnynt, eu heneiddio neu fel arall eu haddasu yn ôl gofynion y sgript
- pryd i geisio cyngor arbenigol gyda defnyddio offer trydanol yn ddiogel
- pa foltedd sydd ar gael ar y set neu leoliad
- trwyddedau fydd efallai eu hangen fel trwydded Gwaith Poeth
- pa Gyfarpar Diogelwch Personol a dillad sydd ei angen
- rheoliadau gweithio ar uchder
- pan fydd gofyn am sgiliau arbenigol fel garddio neu weldio
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch ar gyfer y cynhyrchiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP6
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; gwisgo setiau; dehongli cynlluniau; deunyddiau a chostau; gofynion cynhyrchu; offer;