Trefnu cludiant celfi

URN: SKSPRP5
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu bod celfi yn cael eu cludo i ac o leoliadau, paratoi celfi i'w cludo a monitro'r broses gludiant.

Gall celfi fod naill ai yn rhai sydd wedi'u llogi, neu rai sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn bob un o'r rhain.

Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi* a'r Stôr-geidwad Celfi.

*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod gofynion danfon yn ôl amserlenni cynhyrchu a ffilmio
  2. cysylltu gyda staff perthnasol i weld a ydy'r celfi ar gael
  3. gwirio a chadarnhau bod pob cerbyd sydd ei angen ar gael ac yn cwrdd â'r gofynion, gan gynnwys y cerbyd wrth gefn
  4. sicrhau bod trefniadau ar gyfer danfon celfi yn cwrdd â'r gofynion cynhyrchu a bod cadarnhad bod cludiant ar gael
  5. gwirio a chadarnhau bod yr holl gelfi wedi'u nodi'n glir i'w defnyddio ar, ac i'w danfon at, y setiau priodol
  6. nodi gwybodaeth allweddol yn fanwl ar yr amserlenni gan gynnwys mannau casglu, mannau danfon, terfynau amser a threfniadau diogelwch
  7. paratoi a storio amserlenni cludo a sicrhau eu bod ar gael yn ôl y gofyn
  8. gwirio a chadarnhau beth ydy'r celfi a'u hansawdd yn unol â'r amserlenni a gofynion
  9. pacio celfi i'w diogelu rhag difrod wrth gael eu cludo, gan nodi a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod neu gelfi coll
  10. rhoi trefniadau arbennig mewn lle ar gyfer pacio ac amddiffyn eitemau o werth uchel a bregus
  11. addasu'r amserlen gludo mewn ymateb i unrhyw newid mewn gofynion cynhyrchu
  12. sicrhau dogfennaeth a chaniatâd priodol ar gyfer cludiant
  13. storio cofnodion cyflawn at ddefnydd yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddehongli gofynion cludiant o gynlluniau cynhyrchu ac amserlenni ffilmio
  2. sut i lunio amserlen gludiant hyblyg a phwysigrwydd ei gwirio ar gyfer cywirdeb
  3. pa drefniadau diogelwch sydd eu hangen wrth gludo a storio
  4. pa ganiatâd a dogfennaeth sydd eu hangen ar gyfer cludo
  5. mathau o gelfi a'u hamodau cludo
  6. mathau o gynhwyswyr a phecynnu a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer gwahanol fathau o gelfi
  7. gweithdrefnau ar gyfer delio gyda chelfi sydd wedi'u difrodi neu sydd ar goll gan gynnwys lladrad a difrod maleisus
  8. goblygiadau costau penodol sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch 
  9. trefniadau cludiant
  10. gwahanol gerbydau a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer cludo gwahanol fathau o gelfi
  11. meini prawf ar gyfer adolygu diogelwch trefniadau cludiant
  12. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol sy'n gysylltiedig â chludo celfi
  13. sut i gwblhau a storio cofnodion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; trefnu cludiant; lleoliadau; amserlen; paratoi; monitro; cynlluniau cynhyrchu; amserlen ffilmio;