Cynllunio a monitro gwneuthuriad celfi er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu
URN: SKSPRP3
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon a wnelo ag adnabod y gofynion ar gyfer gwneud celfi o ddadansoddiadau sgript yn fewnol neu yn allanol. Mae a wnelo â chynllunio a threfnu'r gofynion gwneud a monitro cynnydd.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*
*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y gofynion ar gyfer celfi o ddadansoddiadau sgript
- cysylltu gyda'r holl adrannau, cyflenwyr neu wneuthurwyr eraill yn ôl y gofyn i adnabod gofynion celfi ar gyfer pob golygfa
- cyfiawnhau'r angen i gelfi gael eu gwneud neu eu cynhyrchu
- dadansoddi ffynonellau gwybodaeth i adnabod gofynion gwneud
- paratoi amcangyfrifon o'r deunyddiau, offer a chyfarpar ar gyfer gwneud celfi
- adnabod nodweddion y deunyddiau a chadarnhau'r gofynion gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau
- trefnu gwneuthuriad y celfi fel eu bod ar gael yn ôl y gofyn gan ganiatáu digon o amser ar gyfer unrhyw beth annisgwyl
- cael gafael ar ddeunyddiau a gwneud trefniadau cyflenwi fel bod modd cwblhau'r gwneuthuriad o fewn yr amserlen gytunedig
- adnabod y tasgau a'r sgiliau sy'n ofynnol er mwyn gwneud celfi a phenodi staff priodol i dasgau gwneud
- cadarnhau ydy cyfleusterau gwneud ar gael a'u bod yn ddiogel
- monitro ac adolygu gweithredoedd gwneud i gadarnhau bod nifer y celfi a'u hansawdd yn cwrdd â'r gofynion a'u bod yn cael eu cynhyrchu o fewn yr amserlen gytunedig
- cofnodi a rhoi gwybodaeth monitro mewn ffolder er mwyn bod yn ffynhonnell wybodaeth i weithredoedd gwneud yn y dyfodol
- defnyddio gwybodaeth fonitro er mwyn darparu adroddiadau cynnydd i bobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau
- adnabod elfennau sy'n cael effaith ar ansawdd, cynnyrch a'r amserlen gyfan a rhoi cynlluniau wrth gefn yn eu lle
- cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocoliau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dulliau o adnabod gofynion ar gyfer gwneud celfi o ddadansoddiadau sgript
- meini prawf ar gyfer asesu'r angen i wneud celfi
- gofynion ac amserlenni gwneud
- ffynonellau gwybodaeth am gwmnïau gwneud a'u galluoedd
- sut i baratoi amcangyfrifon deunyddiau, offer a chyfarpar
- sut i gadw cofnodion ac adroddiadau cywir o'r celfi gaiff eu gwneud
- sut i gynllunio ar gyfer pethau annisgwyl
- sut i benderfynu ar y sgiliau sydd eu hangen i wneud celfi
- y cyfleusterau gwneud gofynnol gan gynnwys eu nodweddion diogelwch
- gwahanol ddulliau gwneud a sut i ddewis y dull mwyaf addas
- sut i ddelio gydag elfennau sy'n cael effaith ar ansawdd, cynnyrch a'r amserlen
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocoliau iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP3
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; cynllunio celfi; monitro gwneuthuriad celfi; dadansoddiadau sgript; gofynion gwneud; costau; meistr celfi;