Cael gafael ar gelfi er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu
URN: SKSPRP2
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gafael ar gelfi penodol er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu. Byddwch yn gyfrifol am adnabod gofynion cynhyrchu ar gyfer celfi a chytuno arnynt gyda phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau.
Bydd hefyd gofyn arnoch i ddod o hyd i gyflenwyr a threfnu bod y celfi yn cael eu trin a'u storio yn ddiogel.
Efallai bydd y Safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*
*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod gofynion ar gyfer celfi ac amserlenni cynhyrchu
- cysylltu gydag adrannau ac aelodau eraill o staff ynghylch gofynion celfi a chytuno arnynt gyda phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau
- adnabod ffynonellau tebygol ar gyfer llogi/cyflenwi celfi
- dewis eitemau gan gwmnïau llogi a chyflenwi sy'n gallu cwrdd â'r gofynion cynhyrchu orau
- gwirio a chadarnhau bod amserlenni danfon, terfynau amser a lleoliadau yn gyson gyda'r gofynion cynhyrchu ac wedi'u cytuno arnynt gyda llogwyr/cyflenwyr
- trefnu cyfleusterau cludiant lle bo angen
- pan fydd cost eitem y tu hwnt i derfynau cyllideb, bydd angen sicrhau awdurdod prynu gan y person perthnasol sy'n gwneud penderfyniadau
- cofnodi gofynion a chytundebau ar gyfer llogi neu brynu celfi
- pan fydd angen trwydded neu ganiatâd arbennig ar gyfer defnyddio celfi, gwiriwch a chadarnhewch fod cadarnhad wedi'i dderbyn
- cytuno ar drefniadau gyda'r llogwr/cyflenwr ar gyfer trin a storio celfi yn ddiogel a chyfathrebu hyn i bob aelod o staff
- adnabod a chofnodi gofynion arbennig ar gyfer trin a storio celfi yn ddiogel
- goruchwylio bod celfi yn cael eu dychwelyd yn ddiogel i'r cyflenwr neu gwmni llogi ar ôl eu defnyddio
- cydymffurfio gyda deddfwriaeth a phrotocolau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahanol fathau o gelfi a'u defnydd
- pwysigrwydd cael gafael ar gelfi sy'n cyd-fynd gyda steil y cynhyrchiad
- y celfi sydd angen eu hamnewid ar gyfer ail-ffilmio ac at ddibenion cysondeb golygfeydd
- gwybodaeth am gwmnïau cyflenwi a llogi
- y meini prawf ar gyfer gwerthuso cyflenwyr a llogwyr
- sut i drafod telerau gyda llogwyr a chyflenwyr
- sut i adnabod ac egluro gofynion ar gyfer lleoli cynnyrch, logos ac eitemau hawlfraint
- sut i wirio bod unrhyw ganiatâd gofynnol wedi'i dderbyn
- sut i gadarnhau logisteg celfi
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
- pwysigrwydd cadw cofnodion o gelfi gaiff eu llogi neu eu prynu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP2
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Celfyddydau a Chyfathrebu
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; cael gafael ar; anghenion cynhyrchu; cynhyrchiad; cyflenwyr; llogwyr; cwmnïau llogi;