Dod â setiau i ben pan fydd cynhyrchiad wedi’i gwblhau
URN: SKSPRP13
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gorffen, rhestru, storio, tynnu lluniau celfi ac eitemau set a chysylltu gydag adrannau ynghylch beth sydd angen ei gadw ar gyfer cynyrchiadau neu arddangosfeydd yn y dyfodol.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud ag ystyried pa gelfi neu eitemau set mae modd eu hailddefnyddio a'u hailgylchu.
Mae'r safon hon yn addas i'r rheiny sy'n gweithio fel Rheolwr Asedau Celfi*, Arolygwr Celfi a Stôr-geidwad Celfi.
*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu gydag adrannau eraill gan gynnwys y tîm rheoli asedau cynhyrchu i benderfynu pa eitemau gaiff eu hailddefnyddio
- tynnu llun a rhestru pob eitem i'w storio i'w defnyddio yn y dyfodol yn unol â gofynion cynhyrchu
- darparu amcangyfrif o ddeunyddiau pacio a chynhwyswyr sydd eu hangen ynghyd â chostau
- dod o hyd i'r deunyddiau pacio a chynhwyswyr sydd eu hangen
- asesu gofynion cludiant a pheiriannau fel wagen fforch godi, wagen godi delesgopig, wagen lwytho isel a cherbydau nwyddau trwm
- rhoi trefniadau arbennig ar waith ar gyfer pacio a diogelu eitemau bregus ac o werth uchel
- gwirio bod eitemau nad oes eu hangen mwyach wedi'u rhoi ar wahân i'r rhai sydd dal eu hangen yn y cynhyrchiad
- gwirio bod eitemau yn cael eu trin a'u pacio er mwyn hwyluso cludiant diogel ymlaen
- gwirio a chadarnhau bod eitemau nad oes eu hangen mwyach yn cael eu dychwelyd, eu storio'n briodol, eu hailgylchu neu eu gwaredu yn ddiogel
- pacio eitemau i gwrdd â gofynion cynhyrchu i'r dyfodol
- cwblhau'r ddogfennaeth yn ôl y gofyn
- gwirio bod eitemau yn cael eu storio er mwyn cynnal eu cyflwr a'u diogelwch a'u gwneud yn hawdd eu cyrraedd i'w defnyddio yn y dyfodol
- cadarnhau bod eitemau trwm neu swmpus yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amserlenni a therfynau amser gofynnol ar gyfer dod â chynhyrchiad i ben a sut i addasu cynlluniau yn ôl y gofyn
- sut i wirio bod yr wybodaeth gan adrannau eraill ynglŷn â'r eitemau sydd i'w clirio wedi'i derbyn
- sut i adnabod pa eitemau fydd eu hangen yn y dyfodol a pha rai na fydd eu hangen
- y system restru gaiff ei defnyddio ar gyfer archifo asedau i'w defnyddio mewn cynyrchiadau yn y dyfodol lle bo'n briodol
- y mathau o gynhwyswyr a phecynnu a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer gwahanol fathau o gelfi
- gweithdrefnau ar gyfer delio â chelfi sydd wedi'u difrodi ac ar goll, lladrad a difrod maleisus
- goblygiadau costau sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch neu sydd wedi'u llogi
- caniatâd a gofynion cludo ar gyfer gwahanol fathau o gelfi fel trwyddedi
- sut i drin a gafael mewn eitemau yn ddiogel
- gofynion y ddeddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
- pa gelfi a deunyddiau mae modd eu hailgylchu neu eu gwaredu a'r dulliau perthnasol o wneud hynny
- gofynion dogfennaeth ar gyfer dod â set i ben
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP13
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; gorffen setiau; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; amserlenni cynhyrchu; ailgylchu; gwaredu;