Clirio setiau sydd wedi’u gwisgo pan fydd cynhyrchiad wedi gorffen
URN: SKSPRP12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chlirio setiau sydd wedi'u gwisgo, gan gynnwys datgymalu a phacio addurniadau a chelfi setiau a'u dychwelyd at i’r lleoliad/cyflenwr priodol, neu eu storio neu gael gwared arnynt yn ddiogel a phriodol.
Gall celfi naill ai fod yn rhai sydd wedi'u llogi neu rheiny sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn rhain i gyd.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y sawl sy'n gyfrifol am Wisgo Celfi, Celfi wrth Gefn a Phrentisiaid Celfi ac Arolygwr Celfi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn ôl yr amserlen weithgareddau benodol
- cyflawni'r tasgau clirio yn y drefn gywir er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen glirio
- gwirio bod celfi yn cyd-fynd gyda rhestrau eiddo a chael deunyddiau pacio er mwyn cwrdd ag amserlenni clirio
- datgymalu addurniadau setiau, eu trefnu fel bod modd eu hadnabod, labelu, cofnodi a'u dychwelyd neu eu storio yn briodol
- gwirio'r holl gelfi yn ôl y ddogfennaeth berthnasol
- asesu a oes modd atgyweirio neu amnewid eitemau sydd wedi'u difrodi ar gyfer y cynhyrchiad
- diweddaru cofnodion ac adrodd am bob eitem sydd wedi'i difrodi i'r staff perthnasol
- trin a phacio eitemau er mwyn sicrhau cludiant diogel ymlaen
- pacio eitemau i gwrdd ag amserlenni cysondeb cynhyrchiad
- storio eitemau i gynnal eu cyflwr a'u diogelwch a'u gwneud yn hawdd eu cyrraedd i'w defnyddio yn y dyfodol
- trin a gafael mewn eitemau trwm neu swmpus yn unol â'r ddeddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
- cwblhau cofnodion yn ôl y gofyn
- gwirio a chadarnhau bod eitemau nad oes eu hangen mwyach yn cael eu dychwelyd, yn eu cyflwr cytunedig, neu eu hailgylchu neu eu gwaredu yn briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr amserlenni a'r terfynau amser cytunedig ar gyfer clirio setiau
- sut i wirio ydy cadarnhad clirio set wedi'i dderbyn a gan bwy
- tasgau clirio set arferol a sut i'w hadnabod
- mathau o addurniadau a chelfi set, eu nodweddion a'u defnydd, a sut cânt eu datgymalu, pacio a chludo fel arfer
- gweithdrefnau ar gyfer gwirio a chadarnhau cyflwr ac adnabod celfi ac addurniadau set
- gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag eitemau coll neu sydd wedi'u difrodi
- sut i adnabod pa eitemau fydd eu hangen yn y dyfodol gan gynnwys pecynnau clirio set
- sut i drin, pacio a symud eitemau yn ddiogel gan gynnwys defnyddio dulliau peiriannol i helpu
- pa gelfi a deunyddiau mae modd eu hailgylchu neu eu gwaredu a'r dulliau ailgylchu neu waredu perthnasol
- gofynion deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
- gofynion y ddogfennaeth
- sut i sicrhau bod yr holl gelfi yn cael eu dychwelyd yn eu cyflwr cytunedig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP12
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; clirio setiau sydd wedi’u gwisgo; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; amserlenni cynhyrchu;