Goruchwylio clirio setiau sydd wedi’u gwisgo er mwyn cwrdd ag amserlenni cynhyrchu
URN: SKSPRP11
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a chadarnhau trefniadau clirio set threfnu bod eraill yn datgymalu a phacio addurniadau a chelfi set a'u dychwelyd at y storfeydd, cyflenwyr neu logwyr.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*
*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi amserlenni ffilmio a chynlluniau cynhyrchu er mwyn adnabod amser a lleoliad clirio setiau a'r adnoddau sydd eu hangen
- cysylltu gydag adrannau eraill ynghylch amseriad clirio setiau ac addasu cynlluniau yn ôl y gofyn
- derbyn hysbysiad neu ganiatâd clirio set sy'n berthnasol i bob tasg cyn dechrau clirio
- adnabod, neilltuo a threfnu'r dasg o glirio set er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn effeithlon
- cyfathrebu'r gofynion clirio set gyda'r tîm sy'n clirio'r set
- cael deunyddiau pacio a threfnu cludiant er mwyn cwrdd ag amserlenni clirio setiau
- trefnu bod addurniadau set yn cael eu datgymalu
- trefnu bod addurniadau set yn cael eu labelu a'u dychwelyd neu eu storio
- sicrhau bod celfi yn cyd-fynd gyda'r rhestrau eiddo
- asesu a oes modd amnewid neu atgyweirio eitemau sydd wedi'u difrodi ar gyfer cynyrchiadau, diweddaru cofnodion, a rhoi gwybod am bob eitem sydd wedi'i difrodi i'r staff perthnasol
- gwirio bod eitemau yn cael eu trin a'u pacio er mwyn hwyluso cludiant diogel ymlaen
- rhoi eitemau nad oes eu hangen mwyach ar wahân i'r rhai sydd dal eu hangen yn y cynhyrchiad
- sicrhau bod eitemau nad oes eu hangen mwyach yn cael eu dychwelyd, storio yn briodol, ailgylchu neu eu gwaredu yn ddiogel
- gwirio a chadarnhau bod yr holl eitemau yn cael eu pacio i gwrdd ag amserlenni cysondeb golygfeydd cynyrchiadau ac mewn trefn resymegol
- adrodd am a chofnodi eitemau sydd wedi'u difrodi neu ar goll i'r staff, adrannau neu sefydliadau perthnasol
- gwirio bod pob eitem yn cael ei storio yn ddiogel a glân er mwyn cynnal eu cyflwr a diogelwch at ddefnydd yn y dyfodol
- sicrhau bod eitemau mawr neu swmpus yn cael eu trin yn unol â'r ddeddfwriaeth, rheoliadau neu brotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddadansoddi amserlenni ffilmio a chynlluniau ffilmio
- yr amserlenni a'r terfynau amser gofynnol ar gyfer clirio setiau a sut i addasu cynlluniau pan fydd angen
- tasgau clirio set arferol a sut i'w hadnabod a'u dosbarthu
- pwysigrwydd cyfathrebu anghenion clirio set gyda'r tîm sy'n clirio'r set
- mathau o addurniadau a chelfi set, eu nodweddion a'u defnydd
- sut caiff addurniadau a chelfi set eu datgymalu, pacio a'u cludo fel arfer
- gweithdrefnau ar gyfer gwirio a chadarnhau cyflwr ac adnabod celfi ac addurniadau set
- gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag eitemau sydd ar goll neu wedi'u difrodi
- sut i adnabod pa eitemau fydd eu hangen yn y dyfodol
- sut i wirio bod yr wybodaeth gan adrannau eraill ynglŷn â chlirio'r set wedi'i derbyn
- sut i drin a gafael mewn eitemau yn ddiogel
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
- pa gelfi a deunyddiau mae modd eu hailgylchu a'r dulliau ailgylchu priodol
- sut i wirio a chadarnhau'r hysbysiad neu gadarnhad clirio set
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP11
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; clirio setiau sydd wedi’u gwisgo; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; amserlenni cynhyrchu;