Cynnal cysondeb celfi ac ail-wisgo setiau yn ystod cynhyrchiad
URN: SKSPRP10
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal cysondeb celfi a gwisgo setiau a rhagweld digwyddiadau posibl a gofynion yn ystod y cynhyrchiad. Mae'n gofyn ichi ymgymryd â chlirio setiau ac ail-wisgo setiau.
Gall celfi naill ai fod yn rhai sydd wedi'u llogi, neu sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn rhain i gyd.
Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl yr Arolygwr Celfi a Chelfi wrth Gefn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi'r holl wybodaeth sydd ar gael i adnabod gofynion cysondeb golygfeydd
- creu pecynnau clirio ar gyfer gwaith ffilmio i'r dyfodol er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd
- gwirio a chadarnhau bod yr holl gelfi ar gael yn y cyflwr cytunedig yn unol â'r dadansoddiad sgript celfi
- cofnodi lleoliad addurniadau ar y set er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd ar gyfer ffilmio i'r dyfodol
- tynnu lluniau o gelfi a ble maen nhw ar y set er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd ar gyfer gwaith ffilmio pellach
- cadw cofnod o'r holl newidiadau gaiff eu gwneud yn ystod golygfeydd ffilmio
- diweddaru'r dadansoddiad sgript gyda gofynion cysondeb golygfeydd
- rhoi marc yn safleoedd eitemau sydd angen eu hailosod yn fanwl gywir
- darparu copïau o gelfi er mwyn cymryd lle'r rhai gwreiddiol pan fydd angen
- ailosod addurniadau set yn gywir yn ôl y cofnodion a gofynion ffilmio
- sicrhau bod pob celfi llaw at ddibenion cysondeb golygfeydd ar gael ar yr adeg sydd eu hangen ac ar gyfer y golygfeydd penodol
- cadw cofnodion cysondeb o gelfi gyda nodweddion sy'n newid yn ystod ffilmio
- gwirio a chadarnhau bod celfi sydd â nodweddion sy'n newid yn ystod ffilmio yn cael eu haddasu, cywiro neu amnewid pan fydd angen ar gyfer ail-ffilmio
- cysylltu gydag adrannau eraill ynghylch gofynion celfi i'r dyfodol
- cofnodi a storio eitemau yn unol â gofynion cynhyrchu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i greu pecynnau clirio set a rhoi marc ar gelfi a'u lleoliad at ddibenion cysondeb golygfeydd
- pwysigrwydd adnabod celfi fydd efallai angen eu hamnewid
- pwysigrwydd nodi nodweddion sy'n newid fel eitemau sy'n heneiddio ac aeddfedu, hylifau sy'n anweddu a nwyddau bwytadwy
- cadw cofnodion er mwyn cynnal cysondeb
- o ble mae cael copïau o gelfi mewn nifer digonol
- pwysigrwydd gwirio bod copïau o gelfi yn ddyblygiadau union o'r rhai gwreiddiol yn ôl yr angen
- sut i addasu celfi er mwyn cwrdd â gofynion sy'n newid
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
- gofynion cynhyrchu ar gyfer cofnodi a storio celfi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP10
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; pecynnau clirio set; ail-wisgo setiau; ffilmio; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; celfi llaw; gwisgo set;