Gwneud defnydd o gymorth technoleg wrth ôl-gynhyrchu
URN: SKSPP25
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio gyda staff cymorth technegol i atgyweirio, cynnal parodrwydd gosodiadau meddalwedd a chaledwedd a'u diweddaru er mwyn galluogi llif gwaith i fynd rhagddo heb drafferthion.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â defnyddio caledwedd a meddalwedd yn rhan o'r llif gwaith y gallai fod angen cymorth technoleg arnynt ar ei gyfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gofynion technegol prosiectau a'r mathau o gyfluniad caledwedd a meddalwedd sydd ar gael o ffynonellau dibynadwy
- nodi anghenion cyflunio caledwedd a meddalwedd y bydd angen cymorth arnoch ar eu cyfer yn erbyn asesiad realistig o'ch sgiliau technegol a'ch arbenigedd
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy yn sgil monitro technegol i ragweld problemau technegol a allai effeithio ar ddichonoldeb, cost a hyd y gwaith
- nodi diffygion neu anawsterau technegol sy'n digwydd a hynny'n gynnar
- nodi ffynonellau dibynadwy o arbenigedd sydd ei angen i greu neu unioni cyfluniadau
- darparu briffiau clir i gydweithwyr technegol ar ofynion technegol cynnyrch a chamau'r llif gwaith
- asesu dichonoldeb, gofynion cost ac amser yn erbyn effaith caledwedd neu feddalwedd diffygiol i'r llif gwaith
- cofnodi cyfluniadau ac effeithiolrwydd datrysiadau yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y llif gwaith ac egwyddorion y gwahanol weithrediadau sy'n digwydd o fewn iddo
- y mathau o offer sydd ei angen a gwendidau ac effeithiau diffygion cyffredin arno
- sut y bydd protocol y rhyngrwyd yn effeithio ar fformat
- terminoleg a ddefnyddir gan staff cymorth technegol
- egwyddorion cyfluniadau cyfrifiaduron a rhwydweithiau data
- egwyddorion y pethau safonol ac ansafonol y gellir eu cyflawni, fformatau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
- safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
- rhagdueddiad ansawdd a fformatau i amrywiadau ym mherfformiad offer
- dulliau derbyniol ac annerbyniol o gwtogi gwaith a chanfod ffyrdd amgen o weithio
- cyfathrebu â chydweithwyr technegol a staff annhechnegol mewn rhannau eraill o'r llif gwaith
- y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael i chi a ble i'w gael
- ffactorau iechyd a diogelwch yr offer a'r gweithle
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP25
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Technoleg, Cefnogaeth, Caledwedd, Meddalwedd