Cymysgu sain a recordiwyd
URN: SKSPP24
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chymysgu sain wrth ôl-gynhyrchu, a chyfeirir at hyn hefyd fel "cymysgu ail-recordio" neu "dybio".
Mae'n golygu asesu, dethol, cydbwyso a thrin sain sydd wedi'i threfnu ar draciau, i gyflawni lefel, ansawdd tonyddol, delwedd sain ac eglurder gofynnol.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chymysgu sain sydd wedi'i recordio wrth ôl-gynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad cywir o bob un o nodweddion traciau sain
- addasu traciau sain unigol fel bod modd eu deall, a bod y sain ofynnol wedi'i gosod a'i delweddu yn y dull a ddymunir
- gosod a chydbwyso sain i gyflawni effeithiau creadigol ac esthetig dymunol yn unol â gweledigaeth y cyfarwyddwr neu rywun arall sy'n gwneud penderfyniadau
- cyflawni trawsgyweiriadau priodol rhwng sain a cherddoriaeth
- rheoli lefelau signalau cyfansawdd o fewn terfynau technegol ac o fewn yr ystod ddeinamig ddymunol
- trin traciau sain i gyflawni lefel, cydbwysedd, ansawdd tonyddol, persbectif ac ystod ddeinamig briodol
- creu cymysgeddau sain o fewn cyfyngiadau amser, cyllideb a chyfyngiadau cynhyrchu eraill
- gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd sain a rheoli hynny yn erbyn safonau artistig a thechnegol cytunedig
- creu cymysgeddau sy'n briodol i'r cyd-destun y cânt eu clywed ynddo
- creu cymysgeddau sain sy'n cyflwyno nodweddion seiniau unigol a sain atmosfferig yn unol â briffiau* *
- sicrhau bod ffeiliau sain yn cydymffurfio â therfynau cyfreithiol a safonau ar gyfer dosbarthu a darparu
- defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i nodi a chywiro unrhyw broblemau wrth greu cymysgeddau
- dehongli awgrymiadau a cheisiadau gan y bobl sy'n gwneud penderfyniadau yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- awgrymu opsiynau i bobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n ateb ceisiadau artistig a gofynion gweithredol cynyrchiadau fel ei gilydd
- trefnu cydrannau cymysgeddau mewn ffyrdd addas fel y gellir eu defnyddio'n ddiweddarach
- gwirio bod gwaith papur yn gywir, yn ddarllenadwy ac yn cydymffurfio â chonfensiynau sy'n ddealladwy i gymysgwyr, technegwyr sain neu stiwdios eraill
- esbonio materion technegol mewn ffyrdd sy'n galluogi pobl nad ydynt yn bobl dechnegol i ddeall eu harwyddocâd
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cynhyrchu, egwyddorion technegol ac ariannol
- egwyddorion golygu sain a sut i olygu sain gan ddefnyddio rhaglenni meddalwedd poblogaidd
- gofynion ar gyfer ystod ddeinamig
- meini prawf ar gyfer gwerthuso cymysgeddau sain wrth iddynt gael eu creu
- ym mha gyd-destun y caiff y cymysgeddau eu chwarae, a sut i gymryd hyn i ystyriaeth wrth eu creu
- y gwahanol fathau o drin a hafalu sain, a sut i'w cyflawni
- nodweddion ansawdd tonyddol a phersbectif, a sut i'w cyflawni
- egwyddorion acwstig perthnasol a sut i'w rhoi ar waith
- nodweddion, defnyddiau a gofynion fformatau mono, stereo a sain amgylchynol, a sut i'w cyflawni
- rhinweddau a nodweddion gweithredol offer cymysgu, offer ategol ac offer amgodio
- terfynau cyfreithiol a safonau ar gyfer ffeiliau sain i'w dosbarthu a'u darparu yn arbennig mewn perthynas ag uchder sain, sain drochol a metadata a sut i weithio'n greadigol o fewn iddynt
- pwysigrwydd gallu clywed deialog yn enwedig mewn perthynas â'r nam posibl ar glyw poblogaeth sy'n heneiddio
- strategaethau effeithiol i wella'r gallu i glywed deialog
- sut i adnabod diffygion mewn systemau monitro
- gofynion creadigol ac esthetig y cyfarwyddwr (neu'r person arall sy'n gwneud penderfyniadau)
- sut i drafod ac ymateb i ofynion creadigol a thechnegol y person sy'n gwneud penderfyniadau
- sut i ddehongli ceisiadau ac awgrymiadau o ran genre penodol neu arddull cymysgeddau sain
- egwyddorion "adrodd stori" fel y maent yn berthnasol i bob ffurf a genre
- confensiynau gwahanol genres ac arddulliau gwneud ffilmiau a rhaglenni
- egwyddorion ac arddulliau cerddoriaeth a gwahanol ensembles gan gynnwys cerddorfa, pedwarawd llinynnol, grŵp roc, pedwarawd jazz ac unawdwr
- sut i esbonio materion technegol yn glir i bobl nad ydynt yn bobl dechnegol
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP24
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Sain, Cymysgeddau, Dybio