Cefnogi cleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleusterau ôl-gynhyrchu
URN: SKSPP23
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cymorth technegol, lletygarwch a gweinyddol i gleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleuster ôl-gynhyrchu. Mae'n gofyn am ddangos blaengaredd oherwydd, mewn amgylchedd lle mae pwysau, mae'n rhaid ateb anghenion pobl yn aml iawn heb fod rhaid iddynt ofyn am hynny. Mae'n gofyn am ymagwedd broffesiynol tuag at gleientiaid a thalentau sy'n ymweld â'r cyfleuster.
Dylai'r Safon hon fod yn bertrhnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi cleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleusterau ôl-gynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhagweld a nodi beth bydd ei angen ar gleientiaid a chydweithwyr yn ystod sesiynau gwaith gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
- cyfathrebu gyda chleientiaid mewn ffyrdd sy'n gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus ac sy'n hyrwyddo'r cyfleuster
- ymateb i geisiadau cydweithwyr a chleientiaid cyn gynted ag y gofynnir amdanynt a hynny mewn ffordd gefnogol a chroesawgar
- cyfathrebu gyda chydweithwyr, cleientiaid ac ymwelwyr mewn modd proffesiynol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- cynnal parodrwydd, ymddangosiad a diogelwch cyfleusterau ar gyfer cleientiaid a chydweithwyr yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- cyflawni tasgau technegol, tasgau'n gysylltiedig â gwybodaeth a thasgau gweinyddol mewn modd prydlon a chywir
- gofyn am help gan gydweithwyr perthnasol pan rydych yn sylwi bod yr awyrgylch gwaith yn troi'n anodd ac na allwch ymdrin â hynny
- trafod anghenion cleientiaid, eu hoffterau a materion a nodir gennych gyda chydweithwyr perthnasol ar adegau priodol
- logio a storio deunyddiau a data yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
- awgrymu i bobl berthnasol welliannau mewn arferion gwaith o ddydd i ddydd a fydd yn gwella'r cymorth a ddarperir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gosodiad y cyfleuster ôl-gynhyrchu a sut y cyfeirir at wahanol leoliadau a chyfleusterau
- personél, eu henwau a'r hyn maent yn ei wneud
- sut i gyflwyno eich hun i'r cleient
- yr ystod o anghenion a allai fod gan gleientiaid gan gynnwys gwybodaeth, arlwyo, darparu deunyddiau a chyfleusterau
- paratoi bwyd a diod a hylendid
- sut i gael bwydydd o wahanol fathau yn lleol
- hoffterau cleientiaid rheolaidd o ran diodydd a bwyd ac anghenion deietegol
- sut i ragweld anghenion cleientiaid gan gynnwys profiad blaenorol
- gofynion y cwmni ar gyfer ymdrin â data a deunyddiau'n ddiogel
- gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer derbyn ac anfon deunyddiau
ffyrdd diogel o weithio, gan gynnwys diogelwch trydanol a chodi a chario
cyfathrebu â chydweithwyr technegol ac annhechnegol, cleientiaid ac ymwelwyr
- pwysigrwydd gwaith tîm a darparu gwasanaeth cydlynol hyd yn oed pan na fydd eraill cystal
- ffactorau iechyd a diogelwch yn perthyn i'r holl offer a'r gweithle
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP23
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cleientiaid, Cydweithwyr