Golygu sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â golygu deunydd sain i ateb gofynion cynhyrchu.
Mae'n golygu asesu deunydd i benderfynu pa fath o ddulliau golygu y dylid eu defnyddio, ac ymdrin ag anawsterau wrth lunio'r golygiad gofynnol. Mae'n ymwneud â dethol pwyntiau golygu priodol, gwneud diwygiadau sy'n dechnegol gywir, asesu golygiadau gorffenedig, a'u cwblhau yn erbyn y dyddiadau cau a roddwyd i chi. Weithiau mae'n bosibl y byddwch yn gweithio i derfynau amser tynn ac o dan bwysau.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â golygu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod y gofynion technegol, creadigol a masnachol ar gyfer golygu sain o ffynonellau dibynadwy
- cynnal asesiad cywir o'r deunydd er mwyn penderfynu ar y math o ddull golygu i'w gyflawni
- esbonio wrth bobl berthnasol beth yw goblygiadau recordio gyda thechnegau cywasgedd gostyngedig i'r deunydd gwreiddiol
- awgrymu datrysiadau addas i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn atal unrhyw anawsterau wrth gwblhau golygiadau arfaethedig
- trefnu traciau a deunyddiau mewn modd priodol i gyflawni eich gwaith
- dethol pwyntiau golygu sy'n creu trawsgyweiriadau gofynnol ac yn cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cleientiaid neu'r cynhyrchiad
- dethol pwyntiau golygu sy'n cyflawni'r hyd, y rhythm, y cyflymder, yr wybodaeth a'r cefndir gofynnol; a lluniau ategol pan fydd hynny'n briodol
- defnyddio arddull golygu sy'n briodol i'r deunydd
- cadw unrhyw gydamseru gofynnol yn y golygiad
- dethol a marcio pwyntiau golygu mewn ffordd gywir a chlir
- defnyddio'r math o ddull olygu sy'n briodol i ofynion
- gwneud golygiadau sy'n dechnegol gywir, yn lân ac yn effeithiol yn artistig
- cadarnhau bod golygiadau'n ateb gofynion cleientiaid neu'r cynhyrchiad
- cwblhau'r golygu o fewn terfynau amser a chyllideb gytunedig
- marcio unrhyw drimiau a deunydd crai sydd heb eu labelu yn unol â systemau'r cwmni, a'u storio fel y gellir cael hyd iddynt wedyn os oes angen
- cadarnhau bod dulliau storio data golygu anehedol yn gyfredol
- cadarnhau bod copïau angenrheidiol a gaiff eu harbed wrth gefn yn cael eu cadw, er mwyn cynnal uniondeb sain a data
- cadarnhau bod deunydd gwreiddiol yn cael ei ddiogelu
- cynhyrchu gwaith papur cywir a darllenadwy a labelu yn y fformat gofynnol
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gofynion ôl-gynhyrchu'r cleient neu'r cynhyrchiad
y deunydd sydd i'w olygu, beth yw'r gofynion golygu, a pha fathau o ddulliau golygu sy'n bosibl
terfynau cyfreithiol a safonau ar gyfer ffeiliau sain i'w dosbarthu a'u darparu yn arbennig mewn perthynas ag uchder sain, sain drochol a metadata a sut i weithio'n greadigol o fewn iddynt
pwysigrwydd gallu clywed deialog yn enwedig mewn perthynas â'r nam posibl ar glyw poblogaeth sy'n heneiddio
strategaethau effeithiol i wella'r gallu i glywed deialog
ble i gael hyd i ddeunyddiau crai
yr amserlen a'r gyllideb ar gyfer y gwaith golygu
y gofynion o ran dogfennaeth a fformat
unrhyw ofynion cydamseru a'u goblygiadau yn y broses gynhyrchu
y goblygiadau ar gyfer golygu lle mae sain yn cefnogi darlun
meini prawf dethol pwyntiau golygu, a sut cânt eu defnyddio i nodi pwyntiau golygu
meini prawf ar gyfer asesu effeithiolrwydd technegol ac artistig golygiadau
graddau anhawster golygu, a sut i'w nodi a'u datrys
y technegau golygu sy'n briodol i gyfryngau penodol
goblygiadau golygu dinistriol ac anninistriol
egwyddorion ADR (deialog ychwanegol wedi'i recordio)
egwyddorion Foley
mathau nodweddiadol o ddiffygion clywadwy mewn technolegau analog a digidol
fformatau a thechnegau cyffredin ar gyfer lleihau data
y goblygiadau ar gyfer defnyddio ac ymdrin â thechnegau cywasgedd data gostyngedig
goblygiadau ar gyfer golygu gan ddefnyddio aml-drac, mono, stereo, neu aml-sianel
ffurf gerddorol a dull enwi sylfaenol gan gynnwys nodyn, curiad, bar a brawddeg
sut i reoli ac arbed sain a data wrth gefn
sut i gydymffurfio â rhestrau golygu data a chyfryngau crai
sut i ddiogelu metadata
sut i adnabod trimiau a deunyddiau crai sydd heb eu labelu, a sut i'w storio'n ddiogel
pwysigrwydd gweithio'n ddiogel gyda sgriniau arddangos, a'r rheoliadau perthnasol
egwyddorion electroneg sylfaenol fel y maent yn berthnasol i sain, gan gynnwys rhwystriant, rhwydweithiau gwanhau, pweru rhithiol a chymarebau signal i sŵn
egwyddorion perthnasol acwsteg a sut maent yn berthnasol
nodweddion perfformiad meicroffonau gan gynnwys: maint, pwysau, uchafswm lefel yr allbwn, patrwm codi, sensitifrwydd a rhagdueddiad i ymdrin â sŵn
nodweddion mwyaduron ac uwch-seinyddion
y gwahanol fathau o offer recordio a chwarae yn ôl
systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch