Gosod sain orffenedig i ddelwedd
URN: SKSPP19
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu prif gopïau ar gyfer amrywiaeth o bethau y gellir eu cyflawni gyda thrac sain wedi'i gymysgu a fideo wedi'i olygu. Dylai'r sain derfynol fod wedi'i chydamseru a dylai fod iddi'r holl elfennau gofynnol ar gyfer pob elfen y gellir ei chyflawni.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â gosod sain orffenedig i ddelwedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am ofynion technegol cyffredinol a gofynion fformat o ffynonellau dibynadwy
- nodi gofynion o ran safonau a fformat ar gyfer pob elfen y gellir ei chyflawni
- nodi prif gopïau sain sy'n briodol ar gyfer prosiectau
- gwirio bod pob rhan o'r llif gwaith blaenorol wedi'u cwblhau yn unol â chynlluniau'r llif gwaith
- mwyafu ansawdd sain a chymysgu prif gopïau sain i mewn
- sicrhau bod cymysgeddau sain yn parhau'n driw i weledigaethau gwreiddiol ac yn adlewyrchu penderfyniadau golygu a wnaed
- gwirio bod traciau priodol ar brif gopïau yn unol â'r fanyleb gytunedig
- gwirio bod y sain derfynol wedi'i chydamseru gyda'r ddelwedd yn ôl safonau technegol disgwyliedig
- ateb gofynion penodedig ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr a gwahanol bethau y gellir eu cyflawni
- gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd sain yn erbyn safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
- logio a throsglwyddo gwaith mewn fformatau penodedig i bobl benodedig
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i asesu ansawdd sain yn ôl safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
- gofynion sain ar gyfer gwahanol fathau o brosiect
- sut i ddethol offer addas a'i weithredu
- gwahanol fathau o lif gwaith a'u heffaith ar y broses o greu prif gopïau
- safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
- pwysigrwydd gallu clywed deialog yn enwedig mewn perthynas â'r nam posibl ar glyw poblogaeth sy'n heneiddio
- gofynion darparu rhyngwladol
- cydrannau o'r cymysgedd sain
- egwyddorion y pethau safonol ac ansafonol y gellir eu cyflawni, fformatau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
- sut i fesur elfennau critigol signalau sain a fideo
- systemau'r cwmni ar gyfer logio, storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP19
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Sain, Cofnodi