Ymgorffori cyfryngau rhyngweithiol mewn cynnyrch

URN: SKSPP18
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymgorffori rhyngwynebau a llwybrau defnyddwyr terfynol mewn cynnyrch sy'n galluogi'r defnyddwyr terfynol i lywio drwy'r cynnwys. Gallai'r cynnyrch gynnwys DVDau, Blu Ray ac ati.  Mae hyn yn ymwneud ag ymgorffori deunydd rhyngweithiol sydd wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr yn hytrach na'i ddatblygu.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig ag ymgorffori cyfryngau rhyngweithiol mewn cynnyrch.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi datrysiadau sy'n caniatáu defnyddio prosiectau'n llawn yn fasnachol
  2. sicrhau y gellir ymgorffori deunydd o fewn yr amser a'r gyllideb
  3. ymgorffori cyfryngau rhyngweithiol o fewn saernïaeth gydlynol a chytunedig i'r cynnyrch
  4. awgrymu newidiadau sy'n gwella hyfywedd technegol neu fasnachol i bobl berthnasol
  5. sicrhau bod nodweddion defnyddwyr terfynol yn cyd-fynd â disgwyliadau a gofynion cleientiaid
  6. ymgorffori cyfryngau sy'n rhychwantu teithiau gofynnol defnyddwyr
  7. gwirio bod dogfennaeth yn disgrifio'n gywir sut mae nodweddion y defnyddwyr terfynol yn gweithredu, gan gysylltu â chydweithwyr pan fo angen
  8. ymgorffori deunydd sy'n gydnaws â'r cyfryngau dosbarthu bwriadedig a llwyfan(nau) gwylio
  9. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gweithreded bwriadedig cynnyrch
  2. technegau ar gyfer cyfuno a chydamseru ffeiliau
  3. dulliau profi gweithreded
  4. safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
  5. safonau dogfennaeth i gefnogi defnyddwyr terfynol
  6. egwyddorion y pethau safonol ac ansafonol y gellir eu cyflawni a fformatau ffeiliau
  7. ble i gael gwybodaeth am y gyllideb, yr amserlen, cyfryngau dosbarthu a llwyfannau gwylio
  8. pwy i gysylltu â hwy, o fewn a'r tu allan i'r busnes
  9. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Rhyngweithiol, Cyfryngau