Amlyncu Deunydd
URN: SKSPP17
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â amlyncu, copïo neu sganio deunydd crai yn barod ar gyfer cam nesaf y llif gwaith. Dylai'r deunydd electronig sy'n tarddu o hyn fod yn y fformat a'r cydraniad cywir, yn y lle iawn, wedi'i logio a chyda sicrwydd o'i ddiogelwch.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â derbyn deunydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth ar fformatau gofynnol, cydraniad, ansawdd, metadata a defnyddiau yn y dyfodol o ffynonellau dibynadwy
- datrys anghysondebau mewn metadata yn unol â'r llif gwaith penodedig
- storio cyfryngau mewn strwythurau ffolder penodol mewn gweithfannau cytunedig
- defnyddio offer a thechnegau sy'n gallu trosi deunydd crai i fformat ac ansawdd dymunol
- gwirio bod deunydd sydd wedi'i gopïo, ei sganio neu ei dderbyn yn gyflawn
- nodi problemau gweledol neu sain a fydd yn effeithio ar y llif gwaith yn y dyfodol a'u cywiro lle bo hynny'n bosibl
- trafod goblygiadau problemau a sut i'w datrys gyda chydweithwyr ac adrodd am broblemau sydd heb eu datrys i bobl berthnasol
- gwirio bod deunydd ar gael i'w weld mewn lleoliadau disgwyliedig a'i fod yn hygyrch i declynnau er mwyn gallu ei wylio
- gwirio bod deunydd mewn fformat ac o ansawdd gweledol addas at ei ddiben
- cyflenwi data cyflawn a chywir am broblemau na ellir eu trwsio er mwyn cefnogi cyfleusterau
- logio data clir a chywir ar gynnwys allbynnau yn unol â gofynion y cwmni
- cynnal dulliau storio diogel a diogelwch y deunydd gwreiddiol a chopïau wrth gefn yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth i'w ddisgwyl o ddeunydd mewnbwn, dogfennaeth gysylltiedig a metadata
- sut i drin a diogelu deunyddiau yn ffisegol ac yn electronig, gan gynnwys arbed copïau diogel wrth gefn o brif ffeiliau
- pan fydd angen storio prif ffeiliau mewn lleoliadau niferus at ddibenion yswiriant
- sut i amcangyfrif a mwyafu amser ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer tasgau
- sut i ragweld a lliniaru risgiau a phroblemau
- mathau o fethiannau a allai ddigwydd mewn offer caffael a derbyn a sut i'w datrys
- safonau presennol o ran camerâu a recordio a theclynnau derbyn
- offer a meddalwedd copïo a sganio a sut i'w gweithredu'n ddiogel
- galluoedd technegol deunydd at ddefnydd storio a defnydd
- strwythurau gweithleoedd a ffolderi
- confensiynau enwi
- egwyddorion rheoli metadata a phwysigrwydd hynny
- anghenion pobl eraill yn y llif gwaith o ran ansawdd ac argaeledd deunydd derbyn
- egwyddorion y pethau safonol ac ansafonol y gellir eu cyflawni, fformatau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
- gwyddoniaeth liw a rhoi tablau am-edrych (LUTs) ar waith
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP17
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Deunydd, VFX, LUTs, Amlyncu