Gorffen cynnwys gweledol

URN: SKSPP16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â gorffen cynnwys gweledol i ateb manylebau'r cleient yn ystod y cyfnod ôl-gynhyrchu. Mae'n cynnwys defnyddio'ch creadigrwydd i orffen cynnwys gweledol gan gynnwys ychwanegu setiau capsiynau a logos.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â gorffen cynnwys gweledol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gwaith sydd i'w gyflawni o ffynonellau dibynadwy
  2. cytuno gyda phobl berthnasol ar yr amserlen a'r amser i'w wario ar orffen cynnwys gweledol
  3. gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd gweledol yn erbyn safonau artistig neu dechnegol cytunedig
  4. nodi technegau sydd i'w defnyddio a fydd yn cyflawni orau y pethau gofynnol y gellir eu cyflawni
  5. cywiro neu wella fformatau cymysg i fodloni gofynion o ran ansawdd neu ofynion technegol
  6. sicrhau bod y cyfryngau gorffenedig yn ateb safonau technegol gofynnol a gofynion y cleient
  7. rhoi adborth ar gynnwys gweledol sy'n effeithio ar lwyddiant eich gwaith i bobl berthnasol
  8. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
  9. cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau'r cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y gwaith sydd i'w gyflawni
  2. gweithrediad meddalwedd ar gyfer cydymffurfio a gorffen
  3. sut i weithio gyda fformatau cymysg gan gynnwys cyfryngau archif
  4. ble i ddod o hyd i wybodaeth am fanylebau'r client a gofynion golygyddol
  5. sut i ddehongli manylebau mewn perthynas â'ch gwaith gan gynnwys y rheiny'n ymwneud â chapsiynau, rhestrau cydnabod a logos
  6. sut mae eich creadigrwydd yn ychwanegu gwerth at eich gwaith
  7. sut i gyfathrebu ar faterion technegol gyda phobl eraill sy'n meddu ar lai o ddealltwriaeth dechnegol na chi
  8. sut i weithio gyda phobl berthnasol gan gynnwys y cyfarwyddwr
  9. amcangyfrif costau ac amser ar gyfer gwaith
  10. pwysigrwydd gweithio i derfyn amser a chyllideb
  11. safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
  12. sut i asesu ansawdd gweledol yn ôl safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
  13. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cynnwys gweledol, Fformat