Darparu sbot-effeithiau sain ac awyrgylch
URN: SKSPP14
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu sain sy'n gwella uniongyrchedd, cyffro ac sy'n helpu i roi cyflymdra a naws i gynnwys gweledol. Mae'n bosibl bydd angen creu sbot-effeithiau ac awyrgylch o'r newydd neu eu cael o lyfrgell sain.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chreu neu ddethol sbot-effeithiau sain ac awyrgylch, ac yn enwedig i artistiaid Foley.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chytuno gyda phobl berthnasol rôl sain atmosfferig a seiniau penodol yn y naratif
- datblygu syniadau sy'n helpu i adrodd y stori; ystyried penderfyniadau ffilmio a golygu sydd eisoes wedi'u gwneud
- cytuno ar ddulliau gweithredu gyda chleientiaid sy'n ystyried eu gweledigaeth a'u syniadau ynghylch sut gall effeithiau sain amlygu neu wella'u deunydd
- gwerthuso deunydd sy'n bodoli sydd wedi'i recordio eisoes o ran ansawdd y sain yn erbyn safonau technegol ac artistig cytunedig a chynghori a ellid ei ddefnyddio a phryd mae angen sbot-effeithiau ac awyrgylch newydd
- cynghori pobl berthnasol am yr amserlen a'r gost er mwyn sicrhau bod modd cael gafael ar y deunydd gofynnol a'i ymgorffori o fewn cyllideb ac amserlen cleientiaid
- rhannu syniadau gyda chydweithwyr sy'n gweithio ar effeithiau 2D, 3D, graddio lliw a sain gysylltiedig gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu priodol
- dod o hyd i effeithiau sain neu ac awyrgylch sy'n cyd-fynd â gweithrediadau neu ddigwyddiadau a saethwyd cynt
- dethol deunydd sy'n ateb gofynion cynhyrchu, gan gynnwys bwriad y sgript, ac sydd yn ddigon hir ar gyfer y sain ofynnol
- dod o hyd i sain atmosfferig sy'n cyd-fynd â'r gosodiadau gweledol a'r amgylcheddau acwstig penodedig
- trin neu acennu sain er mwyn cyfleu naws, awyrgylch, effaith a dilysrwydd yn unol â'r brîff
- gwirio bod y deunydd mewn fformat a chyfrwng sy'n addas ar gyfer y sain ofynnol a'r offer a ddefnyddir, gan drosi rhwng fformatau neu gyfryngau lle bo rhaid
- cydymffurfio â hawliau a chonfensiynau hawlfraint a throsglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol i bobl briodol
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
- cadw ffeiliau cywir o ddeunydd rydych yn ei ddefnyddio a'i ffynonellau
- dychwelyd deunydd a fenthycwyd erbyn terfynau amser cytunedig ac mewn cyflwr sy'n dderbyniol i'r benthycwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cleient neu'r cynhyrchiad, gan gynnwys unrhyw ofynion o ran y sgript
- y gofynion technegol ac artistig, gan gynnwys unrhyw fanyleb dechnegol
- amserlenni, terfynau amser a chyfyngiadau gweithredol eraill y cynhyrchiad
- sut i asesu ansawdd sain yn ôl safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
- llyfrgelloedd sain, sut maent wedi'u trefnu a sut i'w chyrchu
- cyfarpar ar gyfer creu seiniau gan gynnwys sut i ddefnyddio gwrthrychau a deunyddiau cyffredin i greu seiniau
- technegau a gweithdrefnau ar gyfer trin sain
- sut i drin ac ymestyn sain
- sut i gyfrifo amseru
- technegau ar gyfer recordio sain a defnyddio offer recordio sain
- fformatau recordio, cydamseru a systemau cyfeirio
- y defnydd o sain fono, stereo ac aml-sianel i wireddu syniadau creadigol
- safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
- nodweddion sain mewn gwahanol amgylcheddau acwstig
- gofynion o ran dogfennu a labelu
- pa gyfreithiau a chonfensiynau hawlfraint sy'n berthnasol, sut i gael nwyddau newydd neu drwyddedau
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP14
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu , Cynhyrchu, Sain, Effeithiau gweledol, Foley