Defnyddio cerddoriaeth i ategu deunydd gweledol

URN: SKSPP13
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno cerddoriaeth fel bod y gynulleidfa yn ei chlywed yn y ffordd a fwriedir. Ar gyfer cerddoriaeth achlysurol mae hynny'n golygu gwella'r naws, yr awyrgylch a'r gweithredu penodol. Ar gyfer cerddoriaeth grai mae'n golygu creu sain ddilys. 

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â defnyddio cerddoriaeth i ategu deunydd gweledol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dulliau gweithredu cerddoriaeth gyda chleientiaid sy'n ystyried eu gweledigaeth a'u syniadau
  2. cytuno rôl cerddoriaeth a hanfod cyfathrebu â phobl briodol
  3. datblygu syniadau a fydd yn helpu i adrodd y stori
  4. dewis cerddoriaeth sy'n gallu gwireddu syniadau cytunedig
  5. dethol deunydd sy'n ateb gofynion cynhyrchu, gan gynnwys bwriad y sgript, ac sy'n ddigon hir ar gyfer sain ofynnol
  6. trin traciau sain i gyflawni lefel, cydbwysedd, ansawdd tonyddol, persbectif ac ystod ddeinamig sy'n cyfathrebu orau'r emosiwn gofynnol neu'r dilysrwydd acwstig
  7. creu cydbwysedd rhwng cerddoriaeth a sain arall
  8. golygu sain i gyd-fynd â deunydd gweledol a'i ategu
  9. gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd sain a rheoli hynny yn erbyn safonau artistig a thechnegol
  10. gwirio bod cerddoriaeth yn gweithio fel a fwriedir gyda darluniau wedi'u golygu, gan wirio'ch canfyddiadau gyda chydweithwyr a chleientiaid 
  11. gwirio bod deunydd mewn fformat a chyfrwng sy'n addas ar gyfer y sain ofynnol a'r offer a ddefnyddir, gan drosi rhwng fformatau neu gyfryngau lle bo rhaid
  12. sicrhau bod modd cael hyd i gerddoriaeth a'i hymgorffori o fewn y gyllideb a'r amserlen gytunedig
  13. cydymffurfio â deddfau a chonfensiynau hawlfraint a throsglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol am y deunydd i bobl briodol
  14.  cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
  15. cadw cofnodion cywir o'r deunydd rydych yn ei ddefnyddio a'i ffynonellau
  16. dychwelyd deunydd a fenthycwyd erbyn terfynau amser cytunedig ac mewn cyflwr sy'n dderbyniol i'r benthycwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y cleient neu'r cynhyrchiad, gan gynnwys unrhyw ofynion o ran y sgript
  2. y gofynion technegol ac artistig, gan gynnwys unrhyw fanyleb dechnegol
  3. amserlenni, terfynau amser a chyfyngiadau gweithredol eraill y cynhyrchiad
  4. sut i gydweithredu a chydweithio gyda chleientiaid mewn sgyrsiau creadigol
  5. sut i asesu ansawdd sain yn ôl safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
  6. sut i ddod o hyd i gerddoriaeth a'r effaith y gall hyn ei chael ar yr amserlen a'r gyllideb
  7. trin a hafalu sain
  8. sut i drin ac ymestyn sain
  9. sut i gyfrifo amseru
  10. nodweddion ansawdd tonyddol a phersbectif
  11. effeithiau gwahanol fathau o gerddoriaeth ar naws ac emosiwn
  12. sut mae pobl yn clywed cerddoriaeth mewn gwahanol leoliadau
  13. y gwahaniaethau o ran ansawdd rhwng cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd a sut i frasamcanu sain perfformiad byw
  14. y defnydd o sain fono, stereo ac aml-sianel i wireddu syniadau creadigol
  15. sut i greu effeithiau cerddoriaeth mewn gwahanol amgylcheddau acwstig a thrwy eu chwarae ar offer gwahanol 
  16. pwysigrwydd gallu clywed deialog yn enwedig mewn perthynas â'r nam posibl ar glyw poblogaeth sy'n heneiddio
  17. sut gall cerddoriaeth effeithio ar eglurder sain arall
  18. galluoedd defnyddio offer recordio sain a gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
  19. safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a cynnwys
  20. pa gyfreithiau a chonfensiynau hawlfraint sy'n berthnasol, sut i gael nwyddau newydd neu drwyddedau a'r effaith a gaiff y rhain ar y gyllideb
  21. gofynion o ran dogfennu a labelu
  22. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Cerddoriaeth, Sain