Sicrhau cydymffurfiaeth cynnwys gweledol
URN: SKSPP11
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Ion 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â sicrhau bod gwaith a olygwyd yn cydymffurfio â'r fersiwn o'r ansawdd gorau yn ystod y gwaith ôl-gynhyrchu. Mae'n cynnwys trosi pob math o gyfrwng i gyd-fynd â gosodiadau o ran dilyniant terfynol.
Dylai'r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfiaeth cynnwys gweledol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r gwaith sydd i'w gyflawni o ffynonellau dibynadwy
- cytuno gyda phobl berthnasol ar yr amserlen a'r amser i'w dreulio ar sicrhau bod cynnwys gweledol yn cydymffurfio
- nodi technegau sydd i'w defnyddio a fydd yn cyflawni orau'r pethau gofynnol y gellir eu cyflawni
- sicrhau bod gwaith a olygwyd yn cydymffurfio â'r fersiwn o'r ansawdd gorau o'r cyfryngau gwreiddiol sydd ar gael
- sicrhau bod cyfryngau cydraniad uchel yn cyd-fynd â'r golygiad all-lein
- sicrhau bod yr holl glipiau'n cyd-fynd â'r gosodiadau o ran dilyniant terfynol ac yn ateb safonau technegol gofynnol
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
- cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y gwaith sydd i'w gyflawni
- gweithrediad meddalwedd ar gyfer sicrhau bod cynnwys gweledol yn cydymffurfio
- ble i ddod o hyd i Dablau Am-Edrych (LUTs) a sut i gymhwyso LUTs i ddeunydd crai
- yr effaith y gall trosi clipiau i gyd-fynd â gosodiadau o ran dilyniant terfynol ei chael ar allbynnau rhaglenni
- sut i gyfathrebu ar faterion technegol gyda phobl eraill sy'n meddu ar lai o ddealltwriaeth dechnegol na chi
- amcangyfrif costau ac amser ar gyfer gwaith
- pwysigrwydd gweithio i derfyn amser a chyllideb
- safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cydymffurfio, Gweledol, Cynnwys