Creu effeithiau
URN: SKSPP10
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu effeithiau i helpu i gyflwyno neu gwblhau deunydd. Gall gynnwys:
- gwella ymddangosiad deunydd ac unioni problemau
- adeiladu lluniau drwy drin delwedd dau ddimensiwn
- creu delweddau 3D sy'n rhyngweithio gyda lluniau byw
- trin gwrthrychau neu ddelweddau i roi nodweddion gwahanol iddynt o ran symudiad, graddfa neu swmp.
Ym mhob achos mae'n golygu dehongli syniadau cleientiaid a dod o hyd i ffyrdd i'w gwireddu.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chreu effeithiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi effeithiau gofynnol, eu diben a pharamedrau dylunio o ffynonellau dibynadwy
- datblygu syniadau i helpu i adrodd y stori mewn ffordd weledol neu ddatrys problem weledol sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau ffilmio a golygu sydd eisoes wedi'u gwneud
- cytuno ar ddulliau gweithredu gyda chleientiaid ynghylch sut gall effeithiau amlygu neu wella'u deunydd mewn ffordd sy'n ystyried eu gweledigaeth a'u syniadau
- nodi technegau i'w defnyddio a fydd yn cyflawni orau yr hyn rydych wedi'i gytuno gyda chleientiaid
- cytuno ar yr amserlen a'r amser sydd i'w dreulio ar effeithiau gyda phobl berthnasol
- cael deunydd sy'n addas i greu effeithiau o ffynonellau priodol
- rhoi adborth ar ddeunydd sy'n effeithio ar lwyddiant effeithiau i bobl berthnasol
- rhannu syniadau gyda chydweithwyr sy'n gweithio ar effeithiau cysylltiedig, graddio lliw a sain gan ddefnyddio sianeli cyfathrebu priodol
- creu ac ymgorffori effeithiau sy'n dangos deunydd i wylwyr mewn ffordd mor wirioneddol ag y cytunwyd yn unol â gweledigaethau cleientiaid
- gwirio bod effeithiau rydych yn eu creu yn gadael deunydd yn rhydd rhag delweddau diangen neu afluniadau
- creu effeithiau sy'n gyson ag unrhyw gyfeiriadau go iawn neu gyfeiriadau ymchwil ac sy'n cyd-fynd ag effeithiau eraill neu luniau byw
- gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd gweledol yn erbyn safonau ansawdd artistig neu dechnegol cytunedig, gan atgyweirio unrhyw broblemau gweledol o fewn eich gorchwyl
- cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ffynonellau gwybodaeth am ofynion effeithiau gan gynnwys y sgript, adolygu deunydd sy'n bodoli eisoes a gofynion cleientiaid
- sut i gydweithio a chydweithredu gyda chleientiaid mewn sgyrsiau creadigol
- cynhyrchu a defnyddio teclynnau paentio, tracio, graddio a chyfansoddi
- defnyddio platiau a phlatiau glân
- cynhyrchu a defnyddio delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur
- technegau ar gyfer atgyweirio, atgyffwrdd, tynnu rigiau, gwella lluniau, sefydlogi a gwelliannau eraill i ansawdd gweledol
- gweithredu meddalwedd ar gyfer effeithiau
- sut mae gwrthrychau'n adlewyrchu, yn gwyro ac yn amsugno golau mewn ystod o amodau
- natur y deunydd sy'n addas ar gyfer creu effeithiau 3D a sut i roi cyngor ar ffilmio hyn
- trin deunydd digidol i alluogi neu wella effeithiau
- sut i gyfathrebu ar faterion technegol gyda chleientiaid nad ydynt yn fedrus yn dechnegol
- costio ac amcangyfrif amser ar gyfer gwaith effeithiau
- safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
- dewis a defnydd o graffeg a thestun
- sut i asesu ansawdd fideo yn ôl safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
- systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSPP10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Effeithiau, 2D, 3D