Creu graffeg gynhyrchu

URN: SKSPP09
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio teitlau, rhestrau cydnabod, graffeg lluniau byw a phlatiau enwau a'u rhoi yn y ffilm. Gallai graffeg gynhyrchu gynnwys graffeg sy'n cael ei harosod ar ddeunydd sydd eisoes wedi'i saethu, graffeg, animeiddio neu graffeg sy'n cael ei harosod ar ddeunydd a cherddoriaeth neu sain arall sydd wedi'i saethu'n arbennig. Mae creu graffeg gynhyrchu'n cynnwys cynhyrchu a chronni syniadau a helpu i wireddu'r weledigaeth.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chreu graffeg gynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth am yr amserlen, y llif gwaith, y gyllideb a rôl graffeg gynhyrchu o ffynonellau dibynadwy
  2. cytuno ar y technegau a'r dulliau i'w defnyddio gyda'r bobl berthnasol sy'n gwneud penderfyniadau
  3. datblygu ac awgrymu arddulliau graffeg gynhyrchu sy'n cyd-fynd â genre, naws a phroffil y cynhyrchiad neu'n ei wella
  4. datblygu syniadau sy'n adrodd hanes y teitl 
  5. cytuno ar yr ymddangosiad a'r naws gyda chleientiaid sy'n ystyried eu gweledigaeth a'u syniadau 
  6. dethol neu ddylunio arddulliau sy'n gyson â'r ymddangosiad gofynnol
  7. cytuno detholiad y dilyniannau o gynyrchiadau gyda'r bobl berthnasol ar yr adeg arosod y graffeg
  8. comisiynu dilyniannau ffilm neu animeiddiadau sy'n gyson ag arddull a rôl teitlau a rhestrau cydnabod 
  9. addasu lliw, eglurder delweddau a gwelliannau gweadol eraill i gyd-fynd â'r ymddangosiad a'r naws gan ddefnyddio dulliau graddio lliw ac artistiaid eraill pan fo angen 
  10. sicrhau bod graffeg gynhyrchu'n ddarllenadwy o ran ei fformat a'i hyd ac yn cydymffurfio â rheoleiddio statudol perthnasol
  11. gwneud penderfyniadau critigol am ansawdd sain ac ansawdd gweledol yn erbyn safonau artistig disgwyliedig
  12. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. mathau o graffeg gynhyrchu
  2. technegau arosod
  3. technegau graffeg
  4. teipwynebau a'u heffaith
  5. ffynonellau gwybodaeth am rôl graffeg gynhyrchu, llif gwaith, cyllideb ac amserlenni a sut i'w cyrchu
  6. sut i gydweithredu a chydweithio gyda chleientiaid mewn sgyrsiau creadigol
  7. sut i addasu lliw, eglurder delweddau a gwelliannau gweadol eraill, gan gynnwys trylediad digidol a meddalu
  8. sut i drafod rôl graffeg gynhyrchu a dehongli'r rhain mewn termau graffigol/gweledol
  9. sut i asesu ansawdd fideo a sain i safonau artistig disgwyliedig
  10. rheoleiddio statudol presennol, safonau gwylio a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
  11. gweithdrefnau'r cwmni mewn perthynas â storio ac arbed copïau o ffeiliau wrth gefn a chynnal eu diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP09

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Graffeg