Pennu a rheoli disgwyliadau parhaus cleientiaid

URN: SKSPP06
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymdrin â chleientiaid: cynnal perthynas â chleientiaid lle maent yn teimlo'n hyderus ynghylch y broses gynhyrchu neu ôl gynhyrchu ac yn realistig ynghylch yr hyn y gall ei gyflawni o fewn cyfyngiadau amser a chyllideb.

Gallai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymddwyn yn foesegol wrth ddelio â chleientiaid a datblygu perthnasau sy'n dangos ymddiriedaeth, parch, ymrwymiad a chydweithrediad
  2. gwirio disgwyliadau cleientiaid o brosiectau a bod eich rhan ynddynt yn realistig ar ddechrau'r prosiect ac wrth iddo ddatblygu
  3. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i bennu lefelau dealltwriaeth cleientiaid o brosesau a thasgau cysylltiedig
  4. helpu cleientiaid i ddeall y llif gwaith a'r amserlen a sut y maent yn effeithio ar eu penderfyniadau a'u gwybodaeth
  5. seilio eich penderfyniadau a'ch cyfathrebu â chleientiaid, ar anghenion eu prosiect a'r arbenigedd y gallwch ei gynnig o ran ôl-gynhyrchu
  6. rhoi digon o wybodaeth i gleientiaid i'w galluogi i ddeall dichonoldeb a goblygiadau ceisiadau am unrhyw newid y maent yn eu gwneud
  7. rhoi adborth i gleientiaid cyn gynted a phosib os bydd pethau'n digwydd a fydd yn effeithio ar yr amserlen, cyllideb neu ansawdd a chynnig atebion y gallwch chi a chleientiaid gytuno arnynt o ran cost, proses ac ansawdd, pan fydd angen gwneud newidiadau neu ategolion 
  8. cadw cofnodion o ddisgwyliadau, sgyrsiau a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn fformatau a ddisgwylir gan eich sefydliad
  9. rhoi adborth i eraill y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad ar agweddau o berthynas gyda chleientiaid sy'n berthnasol iddynt
  10. nodi cyfleoedd i ddatblygu perthynas newydd neu gyfredol gyda chleientiaid a fydd o fudd i'ch sefydliad
  11. cynnal diogelwch ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. anghenion a blaenoriaethau cleientiaid a sut i ddeall eu hanghenion y tu hwnt i'w hawgrymiadau cychwynnol
  2. y llif gwaith, yr amserlen a'r gyllideb
  3. safonau gwylio cyfredol a safonau cyflenwi proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol a mynegiannau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
  4. meini prawf a phrosesau cwmni ar gyfer rheoli perthnasau gyda cleientiaid
  5. manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o gyfathrebu â phobl a sut i gyfathrebu'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig
  6. sut i ragweld newidiadau mewn dealltwriaeth neu ddisgwyliadau cleientiaid
  7. sut i gyfathrebu'n bositif addasiadau angenrheidiol i gytundebau a newidiadau i gynhyrchion
  8. sut i gyflwyno atebion i gwestiynau a chynigion y bydd cleientiaid yn eu deall
  9. sut i adnabod problemau a risgiau, lliniaru risgiau a beth i'w wneud pan fydd pethau'n mynd o chwith
  10. sut i esbonio effaith problemau a risgiau a beth sy'n ymarferol a beth sydd ddim
  11. sut i gynnwys cleientiaid mewn datrys problemau ar y cyd
  12. sut i nodi dichonolrwydd a chyfrifo effaith a chost newidiadau mewn gwahanol gamau o brosiectau
  13. dulliau o weithio ar y cyd
  14. sut i weithredu fel cymedrolwr rhwng pobl sydd gyda safbwyntiau gwahanol 
  15. systemau cwmni ar gyfer storio, cefnogi a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP06

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cleient