Monitro llif gwaith ôl-gynhyrchu

URN: SKSPP04
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y llif gwaith yn cyflawni'r cynnyrch ar amser, yn unol â'r Safonau a'r gyllideb. Dylai hefyd ganiatáu lle i'r creadigrwydd y mae ôl-gynhyrchu'n ei gyfrannu at brosiect.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â monitro llif gwaith ôl-gynhyrchu


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu gwybodaeth a dogfennaeth llif gwaith sydd ei angen gan gyfarwyddwyr, golygyddion a phobl eraill sy'n ymwneud â'r gwaith
  2. cyfathrebu gofynion llif gwaith digidol i bawb a fydd yn cyfrannu at y prosiect drwy ddefnyddio sianeli cyfathrebu sefydliadol, gan sicrhau eu bod yn glir ynghylch eu rôl a'r gofynion technegol
  3. derbyn gwybodaeth barhaus am lifoedd gwaith o ffynonellau dibynadwy trwy gydol y prosiect
  4. sicrhau bod y llifoedd gwaith yn parhau i drin y fformat(au) o ddeunydd y mae cleientiaid yn ei gynhyrchu mewn modd effeithlon a chost-effeithiol
  5. sicrhau bod y llifoedd gwaith yn cynhyrchu mathau ffeiliau sy'n gyson â'r gweithrediadau sydd eu hangen a'r gwahanol allbynnau ôl-gynhyrchu sydd eu hangen
  6. nodi bygythiadau i amseru, costau a safonau technegol a achosir gan lif gwaith a gwneud addasiadau amserol i fynd i'r afael â hwy
  7. gwneud newidiadau i lif gwaith sy'n lleihau costau ac oedi ychwanegol ac yn ymateb i newidiadau o ran amseriad y cynhyrchiad
  8. Sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni ym mhob cam o'r broses
  9. Sicrhau bod y llifau gwaith yn caniatáu i gleientiaid wirio cynnydd a gwneud penderfyniadau fel y nodir mewn cytundebau gyda chleientiaid
  10. Cynnal diogelwch ffeiliau a deunydd arall yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. llif gwaith technegol cyffredinol caledwedd a meddalwedd
  2. cydweddedd rhwydwaith cyfrifiadurol a data
  3. swyddogaeth a pherfformiad offer a meddalwedd o ran amser a gallu
  4. egwyddorion o gyflawniadau safonol ac ansafonol, fformatau ffeil, cydgysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
  5. fformatau a ddefnyddir ym mhob cam o'r llif gwaith a dibyniaeth un cam ar y llall
  6. fformat a gofynion llif gwaith gwahanol fathau o ddeunydd sy'n dod i mewn i'w golygu
  7. safonau cyflwyno a datganiadau o arfer gorau
  8. rhyngwynebau rhwng camau o'r llif gwaith
  9. gofynion cyfreithiol a gofynion y cwmni ar gyfer diogelwch a chefnogaeth
  10. galluoedd ac anghenion storio ar gyfer prosiect a sut i fonitro a chynnal lefelau storio
  11. sut i ddogfennu a chyfathrebu llif gwaith cytunedig a diweddariadau mewn fformatau hygyrch a chlir
  12. ffyrdd effeithiol o gyfathrebu â thîm cymysg a newidiol
  13. ffactorau iechyd a diogelwch yr holl offer a'r gweithle

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP04

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, llif gwaith