Pennu cost prosiect a chyd-drafod gyda chleient
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chael archeb sydd o fudd ac yn dderbyniol i'r ddau barti. Mae'r dull o drafod yn gyfuniad o broffesiynoldeb a diplomyddiaeth.
Gall y Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymgysylltu â chleientiaid o ran darpar waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau eich dealltwriaeth o'r cais, yr ymholiad neu brosiect posibl gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau arbenigedd dibynadwy
nodi'r manteision i'r busnes ar gyfer prosiectau unigol yn unol â strategaeth y cwmni
defnyddio gwybodaeth ddibynnadwy i amcangyfrif cyllidebau sydd ar gael ar gyfer y cam cynhyrchu rydych yn gysylltiedig â hi
nodi posibiliadau sy'n dechnegol ymarferol ac o fewn cyfyngiadau prosiect ac sy'n gyson â'r hyn y mae cleientiaid am ei gyflawni
adnabod argyfyngau a sgiliau neu offer ychwanegol y gall fod eu hangen o ffynonellau allanol sy'n gyson â pholisi'r cwmni
cynnig costau ac amserlen ar gyfer y prosiect sydd yn unol â'r manteision ar gyfer y busnes a pha anghenion y mae angen i'r cleient eu cyflawni
cynnig atebion i gleientiaid mewn ffyrdd sy'n dangos sut mae'r nodweddion a'r manteision yn ddeniadol iddynt ac yn cwrdd â'u hanghenion
rhoi digon o amser i gleientiaid drafod cynigion a'u goblygiadau'n llawn
- ymateb i anghenion y cleient a'i sefyllfa o ran cyd-drafod drwy ddarparu gwybodaeth ddilys, dangos parch tuag at eu dyheadau a dangos bwriad i ddatrys unrhyw wahaniaethau
ymateb i gwestiynau a chynigion cleientiaid mewn ffyrdd y byddant yn eu deall
cofnodi, olrhain a dilyn gohebiaeth yn unol â gofynion y cwmni
cytuno gyda chleientiaid ar y gwaith i'w wneud, yr amserlen a'r pris yn unol â gweithrefnau'r cwmni
cwblhau a storio gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r contract yn unol â gofynion y cwmni
nodi cyfleoedd i gynnig gwasanaethau ychwanegol a fydd o fudd i gleientiaid a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae deall anghenion cleientiaid y tu hwnt i'w ceisiadau cychwynnol
- strategaeth y cwmni o ran proffidioldeb, proffil cwmni (enw da) a datblygu neu gynnal perthynas â chleientiaid
cyfyngiadau prosiect, gan gynnwys cost, yr hyn sydd i'w gyflawni, amseru ac adnoddau sydd ar gael
polisi'r cwmni a chonfensiynau ar gyfer pennu costau prosiectau gan gynnwys cyfraddau ar gyfer mewnbwn creadigol
yr hyn y gellir ei gynnig sy'n rhoi 'gwerth ychwanegol' i gleientiaid
sgiliau ac offer y gellir eu ffynonellu yn allanol a pholisi y cwmni mewn perthynas â'u caffael
safonau gwylio cyfredol a'r safonau cyflwyno proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol ac arferion gorau ar gyfer ystod o lwyfannau a chynnwys
sut i nodi a chydbwyso'ch meini prawf ar gyfer derbyn prosiectau fel elw, gwella enw da, digon o amser i wneud gwaith safonol, gan weithio i bobl arbennig
cynllunio llif gwaith a'r dewis o lif gwaith
problemau a risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o brosiectau ac ymagweddau a sut i gynllunio gogyfer ag argyfwng posib.
galluoedd technegol a'r cyfraniad creadigol y gall y bobl sydd ar gael ei wneud i brosiectau
gyda phwy i ymgynghori i gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar wahanol fathau o brosiectau a gofynion technegol
technegau cyd-drafod
pryd y mae hi'n briodol i gynghori cleientiaid i ddefnyddio gwasanaethau amgen mwy cost-effeithiol
gofynion y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a dogfennau contract
systemau storio, cefnogi a diogelwch y cwmni