Rhoi cyngor i ddarpar gleient ar brosiect ôlgynhyrchu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â helpu darpar gleient i gael dealltwriaeth realistig o'r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer y prosiect o fewn ymarferoldeb amser, cyllideb a thechnoleg. Mae'n golygu egluro yn onest beth sy'n bosibl a hynny heb feirniadu cais y cleient. Mae hefyd yn golygu rhagweld yr amrywiol ffyrdd y gellir datblygu'r prosiect.
Gall y Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un o fewn ôl-gynhyrchu sy'n ymgysylltu â chleientiaid o ran darpar waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau eich dealltwriaeth o'r cais, yr ymholiad neu brosiect posibl gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau arbenigedd dibynadwy
nodi'r hyn y mae angen i'r cleient ei wybod er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect, yn cynnwys materion yn ymwneud â chost, amser a gofynion technegol
ar sail cyllideb gyffredinol y darpar gleient, amcangyfri faint sydd ar gael ar gyfer ôl-gynhyrchu
darganfod beth sy'n bosibl o ran ymarferoldeb technegol, llif gwaith, cost ac amser yn unol â'r hyn y mae'r cleient am ei gyflawni
egluro posibiliadau, goblygiadau a chyfyngiadau i gleientiaid mewn modd cadarnhaol
gofyn am gyngor technegol gan gydweithwyr perthnasol i gynghori cleientiaid pan fo angen
dod o hyd i atebion sy'n cwrdd ag anghenion cleientiaid ac sydd â nodweddion a buddion a fydd yn ddeniadol iddynt, pan fo rhwystrau iddynt gyflawni'r hyn y maent ei eisiau
darparu gwybodaeth i'r cleient sy'n ddilys, yn gyflawn ac yn berthnasol
cynnal diogelwch gwybodaeth yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- galluoedd technegol y cyfleuster a'r bobl sydd ar gael
- safonau gwylio cyfredol a safonau cyflawniadau cyflwyno proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol ac arferion gorau ar gyfer ystod o lwyfannau a chynnwys
- ffynonellau arbenigedd am brosiectau posibl a sut i'w cyrchu
- faint o amser y mae gwahanol brosesau a llif gwaith yn ei gymryd a'u costau
cynllunio a dewis llif gwaith
problemau a risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o brosiectau
- sut i nodi newidiadau mewn cynhyrchu a allai wneud arbedion sylweddol mewn ôl-gynhyrchu
- y cyfraniadau creadigol y gall y bobl sydd ar gael eu gwneud i brosiect
- pwy i ymgynghori am ragor o wybodaeth neu arweiniad ar wahanol fathau o brosiectau a gofynion technegol
- sut i ddeall anghenion darpar gleient y tu hwnt i'w gais cychwynnol
- sut i ganfod os yw disgwyliadau'r cleient o ran cyflenwi yn gyrhaeddadwy
- sut i benderfynnu ar y prosesau gorau i'w dilyn i gynhyrchu'r prif ofyniad cyflwyno
- sut i gyflwyno atebion i gwestiynau a chynigion mewn ffyrdd y bydd cleientiaid posibl yn eu deall
- systemau storio, cefnogi a diogelwch y cwmni