Rhoi cyngor i’r tîm cynhyrchu o safbwynt ôl gynhyrchu

URN: SKSPP01
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynghori cynhyrchiad o’r cyfraniad y gall ôl-gynhyrchu ei wneud, yn dechnegol ac yn greadigol, at brosiect. Mae'n rhan bwysig iawn o'r broses a hefyd yn helpu i osgoi anawsterau diangen mewn ôl-gynhyrchu a grëwyd wrth ffilmio neu recordio sain, a sicrhau bod allbynnau technegol boddhaol yn cael eu creu, yn enwedig wrth weithio gyda chodau trawsnewidiol.

Yn bennaf, bydd y Safon hon yn berthnasol i'r rheini sydd ar lefel rheolaethol ond hefyd i unrhyw un o fewn ôl-gynhyrchu sy'n gyfrifol am gynghori’r cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso'r hyn y mae cleientiaid yn ei ddisgwyl neu ei angen o'r ôl-gynhyrchu yn unol a'r hyn sy'n ymarferol ac o fewn y gyllideb
  2. dadansoddi cynlluniau cynhyrchu, llif gwaith, cyllideb ac amserlen gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  3. nodi a fydd cynlluniau cynhyrchu yn galluogi prosesau ôl-gynhyrchu arfaethedig a chyflawniad yr edrychiad terfynol penodedig

  4. nodi a fydd cyflawniadau cynhyrchu arfaethedig yn gydnaws ac yn bodloni'r fanyleb ar gyfer prosesau ôl-gynhyrchu a bod polisïau ynghylch cadw copïau wrth gefn
    yn cael eu gweithredu

  5. briffio eraill ar adegau priodol ar oblygiadau gwahanol ddulliau o gyfleu'r cyfryngau o ran ôl-gynhyrchu

  6. gwneud awgrymiadau ar gyfer newidiadau cynhyrchu a fydd yn galluogi swyddogaethau ôl-gynhyrchu i wella nodweddion creadigol y prosiectau

  7. awgrymu newidiadau sy'n gallu gwneud prosiectau cyffredinol yn fwy hyfyw yn dechnegol ac yn fasnachol

  8. cynnal diogelwch ffeiliau a deunydd arall yn unol â gofynion y cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gael gwybod gan gleient beth mae'n ei ddisgwyl o brosiect
  2. dulliau ar gyfer gwerthuso cost ac ymarferoldeb technegol prosiectau
  3. y disgwyliadau a'r gofynion technegol a ddiffinnir yn y llif gwaith
  4. ffynonellau gwybodaeth am gynlluniau cynhyrchu, llif gwaith, cyllideb ac amserlen a sut i gael mynediad iddynt
  5. goblygiadau saethu mewn amrywiol gyfryngau a mathau o ffeiliau ar ôl-gynhyrchu
  6. sut i saethu i alluogi VFX a phrosesau ôl-gynhyrchu eraill
  7. fformatau y gellir eu defnyddio i osgoi effeithiau cydgadwyno neu golli ansawdd gormodol o ganlyniad i sawl trawsgludiad
  8. y rhyngweithio rhwng y safonau technegol mewn ffilmio a recordio sain a'r safonau sydd eu hangen mewn ôl-gynhyrchu
  9. materion technegol yn ymwneud â dal y llun a sain y byddai'n anodd neu'n ddrud i ymdrin â hwy yn ystod ôl-gynhyrchu
  10. atebion creadigol y gall ôl-gynhyrchu gyfrannu atynt
  11. potensial creadigol ôl-gynhyrchu i helpu'r cleient i gael y canlyniad mae'n ei ddymuno

  12. sut i gyfathrebu'n effeithiol a gweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau 

  13. safonau gwylio cyfredol a safonau cyflawniadau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol ac arferion gorau ar gyfer ystod o lwyfannau a chynnwys

  14. systemau cefnogi a diogelwch a sut y dylid eu defnyddio ar gyfer y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu