Creu graffeg ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu, cynnal ac addasu elfennau graffig, llunio dilyniannau graffig, a gwirio a chyflwyno dyluniadau graffig.
Mae'n ymwneud ag adnabod gofynion o fanylebau, deall cyfyngiadau'r broses dylunio sy'n gysylltiedig â dilyniannau graffig a datblygu elfennau graffig yn esthetig i fodloni gofynion technegol y cynhyrchiad gyda'r adnoddau sydd ar gael. Mae hefyd yn ymwneud ag ymgynghori gyda'r bobl briodol yn ystod gwahanol gamau; gan gynnwys trafod problemau posibl a thrin a thrafod datrysiadau amgen pan nad yw'r dilyniant gofynnol yn ymarferol o ystyried cyfyngiadau'r cynhyrchiad.
Yn olaf, mae'n ymwneud â'u cyfeirnodi a'u storio yn y dull priodol. Sylwch: Gallai elfennau graffig gynnwys cefndiroedd, delweddau, logos a gwrthrychau.
Gelir defnyddio'r safon hon mewn sawl cyd-destun gan gynnwys drafftio syniadau a llunio byrddau stori.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod natur, arddull, cynnwys a diben creadigol yr elfennau graffig o'r fanyleb dylunio a'r wybodaeth ategol
- adnabod gofynion a chyfyngiadau'r broses dylunio sy'n gysylltiedig â'r elfennau graffig
- datblygu elfennau graffig yn esthetig er mwyn bodloni gofynion arddull y cynhyrchiad o fewn y cyfyngiadau penodol
- sicrhau bod yr elfennau graffig yn cyd-fynd â gofynion technegol y cynhyrchiad
- trin, dosbarthu a storio elfennau graffig i'w cynnal fel eu bod yn bodloni ansawdd y cynhyrchiad a'u cyfeirnodi fel bod modd manteisio arnyn nhw'n hawdd
- dosbarthu gwaith sydd ar y gweill ac elfennau graffig terfynol gan gadw at y terfynau amser a'r cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
- dewis a chyfuno elfennau graffig, delweddau a sain yn esthetig mewn ffordd sy'n gyson gyda gwerthoedd y cynhyrchiad a'r gofynion arddull penodol
- sicrhau bod y dilyniannau graffig yn cyd-fynd gyda'r gofynion technegol ar gyfer y cynhyrchiad
- awgrymu dewisiadau eraill pan nad yw'r dilyniant graffig gofynnol yn ymarferol o fewn yr holl baramedrau penodol
- gwirio a chadarnhau bod y dyluniadau graffig yn bodloni gofynion y brîff dylunio gwreiddiol a'r addasiadau dilynol
- rhoi cyfle i wneuthurwyr penderfyniadau ofyn cwestiynau a cheisio eglurder
- cydnabod gwrthwynebiadau i ddyluniadau arfaethedig neu amrywiadau sydd wedi'u hawgrymu iddyn nhw
- egluro'r goblygiadau ynghlwm â gwrthod neu newid datrysiadau dylunio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y manylebau dylunio a'r wybodaeth ategol megis natur, arddull, cynnwys a diben creadigol yr elfennau graffig 2. gofynion a chyfyngiadau'r broses dylunio sy'n gysylltiedig â'r elfennau graffig 3. y safonau a'r gofynion technegol a sut i sicrhau bod yr elfennau creadigol yn eu bodloni 4. sut i greu elfennau graffig i gyflawni'r effaith esthetig, a'r agweddau sy'n effeithio ar hyn 5. pwysigrwydd trin, storio a chyfeirnodi'n gywir 6. pwysigrwydd cymeradwyaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill 7. pryd gallai fod angen gwiriadau, caniatâd a chymeradwyaeth a sut i'w caffael 8. yr agweddau sy'n dylanwadu ar ddewis a chyfuno delweddau, sain, elfennau graffig a dynameg y symudiad a pha effaith a gaiff y rhain ar y cyfansoddiad esthetig 9. galluoedd a chyfyngiadau'r cyfarpar a'r arbenigedd sydd ar gael 10. sut i gyflwyno a chaffael cytundeb ar ddatrysiadau dylunio graffeg