Llunio celfwaith ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSPD8
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfuno ac addasu deunyddiau i lunio celfwaith. Mae'n ymwneud ag adnabod y gofynion dylunio a pharatoi celfwaith sy'n bodloni'r diben creadigol, gyda digon o fanylion ar gyfer y defnydd arfaethedig. Mae'n ymwneud ag adnabod ffynonellau deunyddiau i ddarparu'r ddelwedd weledol arfaethedig ac mae hefyd yn ymdrin ag addasu a thrin deunyddiau. Mae'n disgrifio pwysigrwydd sicrhau bod y celfwaith yn cyd-fynd gyda'r gofynion technegol ac arddull y cynhyrchiad.  

Mae'r safon hon yr arbennig ar gyfer artistiaid graffig pan fo nhw'n llunio celfi wedi'u darlunio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod natur, arddull, cynnwys a diben creadigol y celfwaith
  2. defnyddio technegau sy'n briodol i arddull gofynnol y cynhyrchiad
  3. adnabod ffynonellau deunyddiau i ddarparu'r darlun gweledol gofynnol
  4. dewis, cyfuno ac addasu deunyddiau i greu'r effaith weledol arfaethedig yn esthetig gan fodloni gofynion arddull y cynhyrchiad a gan ystyried yr effaith ar yr amgylchedd  
  5. sicrhau bod y celfwaith yn cyd-fynd â'r gofynion technegol ar gyfer y cynhyrchiad
  6. gwirio a chadarnhau bod y celfwaith yn dangos yr effaith weledol arfaethedig yn ystod y camau allweddol
  7. ymgorffori datrysiadau celfwaith sy'n ddichonadwy ar gyfer y cynhyrchiad
  8. cyflwyno celfwaith neu waith ar y gweill yn y ffurf briodol a gyda manylion digonol ar gyfer y defnydd arfaethedig
  9. rhannu'r celfwaith gyda'r bobl berthnasol ymhen y terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw a gan gadw at y gyllideb
  10. cofnodi'r newidiadau y cytunwyd arnyn nhw i'r celfwaith
  11. adnabod meysydd lle mae angen caniatâd a chymeradwyaeth a gwneud trefniadau i gaffael y caniatâd a'r cymeradwyaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y manylebau dylunio a'r wybodaeth ategol megis y natur, arddull, dynameg, cynnwys a'r diben creadigol
  2. dewis a defnydd yr elfennau ffurfiol mewn darluniadau er mwyn bodloni'r gofynion dylunio a'r gwahanol effeithiau gweledol
  3. ymarferoldeb datrysiadau o fewn paramedrau'r cynhyrchiad
  4. yr effaith ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd celfwaith yn ystod ac ar ôl y cynhyrchiad
  5. y manylion gofynnol yn ystod y gwahanol gamau dylunio a gweithredu'r datrysiadau
  6. pwysigrwydd cofnodi'r newidiadau y cytunwyd arnyn nhw yn eglur ac yn gywir
  7. pwysigrwydd cymeradwyaethau a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ar y gweill
  8. dewis a defnyddio deunyddiau sy'n briodol i fodloni gofynion y cynyrchiadau a'r gwahanol effeithiau gweledol  
  9. ffynonellau deunyddiau dichonol, a'r agweddau sy'n effeithio ar gost deunyddiau
  10. sut i gyfuno ac addasu deunyddiau i greu celfwaith esthetig gan fodloni gofynion arddull y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPD8

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr proffesiynol cysylltiol a galwedigaethau technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

creu; celfwaith; deunyddiau; dylunio; creadigol; ffynonellau; gweledol; delwedd; addasu; trin; technegol; gofynion; cofnodi; dosbarthu; storio; artistiaid graffig;