Llunio darluniau i fodloni gofynion y cynhyrchiad

URN: SKSPD7
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi darluniau a gwybodaeth weledol arall megis cynlluniau. Mae'n ymwneud ag adnabod yr hyn sy'n ofynnol o ran darluniau a gwybodaeth weledol arall.

Mae'n rhaid i chi ddewis y dulliau a'r cyfryngau priodol ynghyd â'r raddfa berthnasol i lunio darluniau. Mae angen i chi fanteisio i'r eithaf ar dechnegau llunio sy'n briodol ar gyfer yr arddull sydd wedi'i ddewis ar gyfer y cynhyrchiad. Fe ddylai bod eich darluniau'n gyflawn, yn gywir ac yn cydymffurfio gyda safonau technegol y diwydiant. Mae'r safon yn ymdrin â gwybod pryd i fanteisio ar sgiliau arbenigol.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel dylunydd Cynhyrchu, cyfarwyddwr Celf neu Ddyluniwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dehongli'r brîff i adnabod y gofynion ar gyfer y darluniau a'r wybodaeth weledol arall
  2. asesu a dewis y dulliau, y cyfryngau a'r raddfa berthnasol ar gyfer llunio darluniau
  3. defnyddio technegau llunio i fodloni arddull y cynhyrchiad sy'n cyfleu gofynion artistig a thechnegol i eraill
  4. gwirio a chadarnhau bod y darluniau a'r deunydd cysylltiedig yn gyflawn ac yn cydymffurfio gyda'r gofynion dylunio a'r wybodaeth dechnegol
  5. gwirio a chadarnhau bod y darluniau'n cynnwys gwybodaeth ar gyfer y defnydd arfaethedig a'u bod wedi cwblhau ymhen yr amseroedd y cytunwyd arnyn nhw
  6. gwirio a chadarnhau bod y darluniau'n dangos yr effaith weledol yn ystod y cyfnodau allweddol a fwriadwyd gan y gwneuthurwyr penderfyniadau ar gyfer y cynhyrchiad
  7. ymgynghori gydag arbenigwyr a sicrhau bod yr wybodaeth dechnegol berthnasol wedi'i mynegi'n eglur yn y darluniau a'r deunydd eraill
  8. llunio a storio cofnodion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddehongli'r hynny sydd ei angen i baratoi darluniau a deunydd cysylltiedig megis graffeg a manylebau 2. gyda phwy dylid ymgynghori a chydweithio i sicrhau bod y darluniau'n bodloni'r gofynion dylunio a'r wybodaeth dechnegol 3. y safonau, y dulliau a'r cyfryngau gweledol i lunio darluniau a gwybodaeth graffigol cysylltiedig, gan gynnwys byrddau stori darluniau dylunio, tafluniadau camera a safbwyntiau ffug (gorfodedig)  4. y defnydd o olau, lliw, a siapiau i gyfleu gwybodaeth strwythurol ac awyrgylch 5. pwy ddylid ymgynghori gyda nhw a chydweithio gyda nhw i sicrhau bod y darluniau'n bodloni'r wybodaeth ddylunio gan gydymffurfio gyda chyfyngiadau'r cynhyrchiad yn ogystal 6. ffyrdd i ddatblygu eich sgiliau tynnu llun 7. y gwahanol fathau o ddulliau a chyfryngau ar gyfer llunio a storio darluniau a gwybodaeth gysylltiedig 8. pwysigrwydd cyflawni gwiriadau sy'n gysylltiedig â chynnwys a chyflwyniad darluniau, gwybodaeth graffegol cysylltiedig a manylebau 9. sut i gynnal systemau cofnodi ar gyfer darluniau a gwybodaeth gysylltiedig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPD7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

llunio darluniau; gweledol; gwybodaeth; cynlluniau; graffegol; dulliau; graddfa; technegau; arddull; beibl dylunio; cofnodion; terfynau amser;