Llunio dyluniadau i fodloni’r brîff
URN: SKSPD5
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio dyluniadau dichonol i fodloni'r brîff. Mae'n ymwneud â thrafod y brîff dylunio gyda'r bobl berthnasol ynghyd ag adnabod y paramedrau a'r goblygiadau technegol.
Mae hefyd yn ymwneud â rhan gychwynnol y broses dylunio a datblygu syniadau o frîff dylunio neu sgript nad yw'n ddarluniadol. Gallai ymwneud ag addasu opsiynau dylunio ac arbedion dylunio presennol sy'n gyson gyda'r brîff neu ddatblygu opsiynau amgen sy'n dangos potensial.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel dylunydd Cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod yr opsiynau dylunio sy'n ymarferol yn dechnegol ac sy'n bodloni paramedrau'r brîff, y gyllideb, yr amserlen a sgiliau'r criw arfaethedig
- ystyried effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd yr opsiynau dylunio
- adnabod datrysiadau a dulliau dylunio newydd ac arloesol pan nad yw'r dewisiadau gwreiddiol yn ddigonol
- trafod yr opsiynau dylunio a ddewiswyd gyda'r bobl berthnasol a chofnodi eu sylwadau
- llunio a gwerthuso opsiynau dylunio o gymharu â'r brîff dylunio i sicrhau eu bod yn ymarferol yn dechnegol ac yn bodloni'r paramedrau dylunio
- cyflwyno gwerthusiadau ac opsiynau dylunio ymarferol i gynorthwyo'r gwneuthurwyr penderfyniadau
- asesu newidiadau i'r brîff dylunio a chyflwyno awgrymiadau o ran opsiynau pan nad yw'n bosibl cynnig un datrysiad sy'n bodloni holl ofynion y brîff
- asesu'r goblygiadau ynghlwm ag addasu'r brîff dylunio a chofnodi'r deilliannau
- cyflwyno asesiadau, casgliadau ac argymhellion er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a derbyniad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- paramedrau'r brîff, y gyllideb, yr amserlen a sgiliau'r criw arfaethedig
- y gwahanol ffynonellau o ran opsiynau dylunio newydd a phresennol
- sut i ddatblygu opsiynau dylunio
- buddion a defnyddiau beiblau dylunio, paletau lliw ac estheteg dylunio
- sut i adnabod, asesu a dewis opsiynau dylunio newydd a phresennol sy'n gyson â'r brîff
- sut i gyflwyno canlyniadau gwerthusiadau ac opsiynau dylunio dichonol i gynorthwyo gwneuthurwyr penderfyniadau i wneud dewisiadau
- pryd i barchu paramedrau'r brîff dylunio a phryd i'w cwestiynu
- sut i weithio'n effeithiol gan gadw at gyllideb neu amserlen gyfyngedig
- gwerth syniadau pobl eraill a sut i'w defnyddio pan fo'n briodol
- rôl arweinwyr adrannau, cleientiaid a chyfarwyddwyr ynghlwm â'r broses gwneud penderfyniadau
- y mathau o werthuso i wirio datrysiadau dylunio
- pam ei bod hi'n bwysig trefnu "dyddiad terfyn" lle nad oes modd gwneud unrhyw newidiadau yn dilyn hynny
- y gwahanol ddulliau o gyflwyno data
- y gofynion ar gyfer cofnodi'r opsiynau sydd wedi'u dewis ac unrhyw addasiadau sydd wedi'u gweithredu
- pam ei bod hi'n bwysig cynnig cyfle i bobl eraill ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPD5
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
llunio; dyluniadau; dichonol; brîff; paramedrau; technegol; goblygiadau; syniadau; datblygu; sgript; nad yw’n ddarluniadol;