Cytuno ar ofynion a pharamedrau ynghylch gweithgarwch dylunio ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSPD4
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chaffael, dadansoddi, a dehongli'r brîff dylunio a gwybodaeth y cynhyrchiad i adnabod y fframwaith, y gofynion a'r paramedrau cyffredinol ar gyfer eich gwaith.
Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod arddull ac effaith y brîff dylunio'n addas.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel cyfarwyddwr Celf neu gyfarwyddwr Celf Wrth gefn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael a dadansoddi gwybodaeth ar y gofynion a'r paramedrau, gan gynnwys unrhyw ofynion, agweddau a chyfleoedd arbennig a fyddai'n effeithio ar natur a gweithrediad y dyluniad
- pennu'r gofynion o ran cysondeb
- egluro a chadarnhau'r arddull weledol a'r effaith arfaethedig gyda'r y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau
- adnabod nodweddion materol o wybodaeth a manylebau dylunio
- caffael cyngor arbenigol pan gaiff problemau eu hadnabod sydd y tu hwnt i'ch arbenigedd chi
- adnabod ac asesu datrysiadau dylunio a thechnegol presennol
- gwerthuso datrysiadau dylunio a thechnegol i bennu eu cyfyngiadau a'u cyfleoedd
- datblygu athroniaeth a manyleb dylunio sy'n bodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio a chadarnhau cost yr adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r dyluniad a bodloni gofynion y gyllideb
- cadarnhau'r newidiadau y mae'r y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau wedi gofyn amdanyn nhw a 'u hymgorffori yn y gofynion
- adnabod cyfleoedd i ddefnyddio dyluniadau i wella llwyddiant creadigol a masnachol y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y brîff dylunio a gofynion y cynhyrchiad a sut i gaffael y rhain 2. yr amcanion ar gyfer y dibenion dylunio ac artistig 3. pwy yw’r sawl sy’n gwneud y penderfyniadau a sut i gadarnhau'r gofynion, yr arddull weledol a'r paramedrau gyda nhw 4. sut i addasu gofynion pan fo'r gwneuthurwyr penderfyniadau yn gofyn am newidiadau a'r camau gweithredu pan nad oes modd bodloni'r cais am newid 5. sut gallai'r dyluniad gynnig cyfleoedd ar gyfer llwyddiant masnachol y cynhyrchiad 6. pwyntiau sylweddol ar gyfer cynllunio, gweithredu a chyllidebu a sut mae'r rhain yn effeithio ar y broses dylunio 7. ffynonellau gwybodaeth ar ddatrysiadau dylunio a thechnegol presennol 8. galluoedd a chyfyngiadau datrysiadau dylunio a thechnegol posibl ac arfaethedig 9. sut i werthuso datrysiadau dylunio a thechnoleg presennol a datrysiadau cysyniadol posibl ar gyfer perthnasedd. 10. y gofynion o ran cysondeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPD4
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
cytuno; gofynion; paramedrau; dylunio; brîff; dadansoddi; dehongli; cynhyrchiad; fframwaith; arddull; effaith; gwisgo’r set; dylunio graffeg