Cynllunio a chyflwyno’r delweddiad dylunio

URN: SKSPD3
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno delweddiad y brîff a'i gyflawniad yn llwyddiannus i'r tîm cynhyrchu ac eraill, gan gynnwys yr adran gelf a'r contractwyr.

Mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn gyfarwydd â delweddiad y brîff  ac yn ei ddeall yn gyfan gwbl yn ogystal â'u rolau a'u cyfrifoldebau er mwyn ei gyflawni.

Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau eich bod chi'n trafod effaith unrhyw newidiadau sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi a sut mae modd mynd i'r afael â nhw.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel dylunydd Cynhyrchiad, cyfarwyddwr Celf, cyfarwyddwr Celf Cynorthwyol a chyfarwyddwr Celf Wrth gefn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyflwyno gwybodaeth am ddelweddu i'r tîm cynhyrchu
  2. defnyddio dehongliadau gweledol pan fo'n briodol i gynorthwyo eraill i allu deall y weledigaeth greadigol
  3. defnyddio dadansoddiad sgript llawn, lle mae sgript ar gael, i gynnig delweddiad pellach
  4. gwirio bod pobl yn deall y delweddiad y cytunwyd arno
  5. trafod a chytuno ar ymarferoldeb y delweddiad y cytunwyd arno a'r mathau o ddeunyddiau, cyfarpar a lleoliadau fydd eu hangen
  6. rhannu gofynion neilltuo'r deunyddiau ac adnoddau
  7. rhannu gofynion cynhyrchu'r delweddiad gan ddefnyddio'r dulliau mwyaf priodol
  8. adolygu ychwanegiadau a diwygiadau awgrymedig i'r delweddiad a chyflwyno'r newidiadau i'r bobl berthnasol
  9. hysbysu'r tîm cynhyrchu o effaith a goblygiadau unrhyw newidiadau, trafferthion neu broblemau a allai effeithio ar amserlen y cynhyrchiad neu ddelweddu'r dyluniad
  10. monitro newidiadau i amserlen y cynhyrchiad a sicrhau bod y bobl berthnasol yn rhoi gwybod i chi am unrhyw broblemau neu drafferthion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwysigrwydd cyfathrebu gyda phobl yn brydlon er mwyn iddyn nhw allu cyfrannu gwybodaeth neu addasu eu hamserlenni gwaith
  2. sut i egluro'r delweddu y cytunwyd arno a'i resymeg
  3. sut i greu cynrychioliadau gweledol i gyflwyno dehongliad addas
  4. sut i lunio dadansoddiad sgript
  5. sut i wirio bod eraill yn deall delweddu
  6. yr ymarferoldeb ynghlwm â chyflawni'r delweddu y cytunwyd arno
  7. y gofynion ynghlwm â neilltuo'r adnoddau
  8. pwysigrwydd gweithredu systemau cyfathrebu effeithiol er mwyn sicrhau bod y delweddu'n cael ei egluro'n drylwyr i bawb sydd ynghlwm
  9. diwygiadau neu ychwanegiadau i'r delweddiad y gellir eu hawgrymu ac y dylid eu dwyn i sylw eraill 
  10. goblygiadau newidiadau i amserlenni'r cynhyrchiad o ran y dyluniad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPD3

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

cyfathrebu; dylunio; delweddiad; brîff; cyflawniad; cynhyrch; tîm; adran gelf; contractwyr;