Pennu gofynion y cynhyrchiad ar gyfer dyluniadau

URN: SKSPD2
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu gofynion y cynhyrchiad ar gyfer dyluniadau er mwyn bodloni'r brîff.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â phennu pa agweddau allai effeithio ar ddyluniadau'r amserlenni a chyllidebau ynghyd â chytuno ar flaenoriaethau ac adnoddau sy'n gysylltiedig â golygfeydd, lleoliadau ac amserlenni saethiadau.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn yr Adran Gelf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu a chofnodi gwybodaeth allweddol o frîff y cynhyrchiad a allai effeithio ar yr amserlennu, y cyllidebu a'r dyluniad 2. adnabod a chytuno ar flaenoriaethau a goblygiadau adnoddau gydag aelodau o'r tîm cynhyrchu 3. gwerthuso gwybodaeth allweddol sy'n ymwneud â golygfeydd, lleoliadau ac amserlenni saethu 4. adnabod arwyddocâd pob golygfa i'w cynnwys yn y rhaglenni gofynion 5. gwirio gyda'r tîm cynhyrchu pan fo'r wybodaeth am y cynhyrchiad yn anghyflawn neu'n aneglur 6. cadarnhau gyda'r y sawl sy’n gwneud penderfyniadau pa elfennau gweledol ac adnoddau sydd eu hangen a phryd, a hysbysu'r rheiny sy'n gyfrifol am eu caffael 7. adnabod elfennau swyddogaethol megis celfi, dylunio golygfaol a'r cyfarpar arbenigol 8. asesu a phennu'r adnoddau cynhyrchu 9. cynllunio sut gellir caffael ac adleoli deunyddiau, staff ac adnoddau eraill yn unol â gofynion y cynhyrchiad 10. cyfiawnhau'r amcan gostau ar gyfer y dyluniad arfaethedig 11. awgrymu a chytuno ar ddewisiadau amgen dichonol gyda'r tîm cynhyrchu pan fo blaenoriaethau dylunio'n newid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod agweddau dylunio gan gynnwys: cyfansoddiad gweledol, cysyniadau ar gyfer saethiadau allweddol; naws ac awyrgylch lleoliadau; goleuo, lliw; effeithiau 
  2. y goblygiadau technegol ar gyfer cydweithwyr yn y tîm creadigol
  3. sut i adnabod, amcangyfrif ac amserlennu gofynion ac adnoddau'r cynhyrchiad 
  4. y dulliau caffael ac adleoli adnoddau gan ddefnyddio'r sgript / ffurf a'r dadansoddiad golygfeydd
  5. pwysigrwydd ystyried cost stiwdios a lleoliadau mewn perthynas â'r gofynion dylunio
  6. pwysigrwydd cytuno ar yr adnoddau sydd eu hangen gyda'r bobl berthnasol o fewn y graddfeydd amser i ganiatáu i'ch cynlluniau ddigwydd 
  7. y sgript/ffurf a'r dadansoddiad golygfeydd ynghyd â sut gallai'r rhain helpu adnabod a chynllunio'r gwaith gofynnol a'r costau ynghlwm
  8. y berthynas rhwng, ac arwyddocâd, golygfeydd a'r amserlen trefn saethu
  9. gofynion y gwahanol fathau o elfennau swyddogaethol megis celfi, dyluniad golygfaol neu gyfarpar arbenigol
  10. sut i adnabod, blaenoriaethu a chytuno ar flaenoriaethau dylunio
  11. pwysigrwydd gweithio gan gydnabod a
    chydymffurfio â hawlfraint wrth ddefnyddio deunydd, delweddau neu gelfwaith
    pobl eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPD2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

gofynion cynhyrchu; dyluniadau; brîff; cynnwys; amserlennu; cyllidebu; dyluniad golygfaol; gosod; gwisgo; adeiladu; adnodd; lleoliadau; golygfaoedd; saethu; sgript; cost;