Dehongli’r brîff a pharatoi’r delweddiad dylunio

URN: SKSPD1
Sectorau Busnes (Suites): Dylunio Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dod i gytundeb llawn a chyd-       ddealltwriaeth o'r brîff a'r delweddiad dylunio. Yn ogystal, mae'n ymwneud â sicrhau ei fod yn bodloni'r weledigaeth greadigol a'i fod yn ymarferol ac yn gyraeddadwy gan gadw at y gyllideb a'r paramedrau amser.

Mae'n broses ailadroddol a gallai ymwneud â sawl fersiwn. Mae'n bosibl bydd gofyn ichi ymwneud gyda brîff sydd wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, mireinio'r brîff hwnnw, neu fynd ati i lunio brîff o'r newydd. 

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer dylunwyr Cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod gofynion neu gysyniad creadigol posibl y cyfarwyddwyr, y cynhyrchwyr neu'r timau creadigol
  2. casglu gwybodaeth am y cyfnod, y genre a'r math o gynhyrchiad yn gysylltiedig â'r gofynion dylunio er mwyn gwneud penderfyniadau dylunio creadigol
  3. dehongli brîff y cynhyrchiad gan ystyried ei ymarferoldeb er mwyn bodloni'r weledigaeth greadigol
  4. awgrymu diwygiadau, ychwanegiadau neu newidiadau er mwyn gwella'r brîff pan fo'i angen
  5. datblygu delweddiad dylunio sy'n portreadu'r cyfnod, y lleoliad a'r cyd-destun dymunol
  6. ystyried sut gallai defnyddio effeithiau gweledol neu arbennig effeithio ar y delweddiad dylunio
  7. cadarnhau gyda'r bobl berthnasol fod gennych chi gyd-ddealltwriaeth o'r dyluniad
  8. gwirio a chadarnhau bod eich dehongliad a'ch delweddiad dylunio'n dechnegol ymarferol
  9. gwirio a chadarnhau bod modd cyflawni'r delweddiad dylunio i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  10. awgrymu dewisiadau amgen dichonol os yw'r gofynion yn newid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. s​ut i gaffael brîff y cynhyrchiad a sut i ddehongli'r gofynion dylunio
  2. ble i ganfod gwybodaeth am y gyllideb, yr amserlen a'r lleoliad tebygol
  3. sut mae eich profiad, sgiliau, gwybodaeth a'ch barn yn dylanwadu ar eich cyfraniad creadigol
  4. sut i bortreadu amser, lleoliad, a chyd-destun drwy liw, dyluniad a gwrthrychau
  5. y ffynonellau gwybodaeth ynghylch lliw, dyluniad a gwrthrychau ar gyfer cyfnodau, genres, lleoliadau a chyd-destunau penodol
  6. sut gellir defnyddio effeithiau gweledol i wella dyluniad y cynhyrchiad
  7. yr adnoddau cynrychioliad gweledol a buddion ac anfanteision y rhain 
  8. sut i gyflwyno a chyfiawnhau eich dyluniadau
  9. sut i adnabod y goblygiadau cost ac ymarferoldeb gwireddu delweddiadau, gan gynnwys deunyddiau, cyfarpar, lleoliadau a chyllidebau
  10. y gofynion a'r asesiadau ymarferoldeb technegol
  11. effaith y gofynion newidiol gan gynnwys toriadau i gyllidebau neu weledigaeth greadigol sy'n newid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSDP1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio;

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

brîff; dyluniad; delweddiad; cytundeb; dealltwriaeth; gweledigaeth; cyllideb; amser; paramedrau;