Asesu hyfywdra prosiectau ar y cyd â dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chysylltu gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau mor fuan â phosib er mwyn asesu hyfywdra busnes prosiectau.
Mae'n ymwneud â deall y broses dosbarthu a medru cydweithio gyda'r rheiny fydd yn gwerthu prosiectau.
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o waith dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau a'r gwahaniaeth rhwng gwerthu cynnyrch i farchnad ac i gynulleidfa. Y mwyaf fyddwch chi wedi paratoi ar gyfer cynhyrchiad, y mwyaf cymwys fydd y dosbarthwr a'r asiantau gwerthiannau i weithredu ar eich rhan unwaith y bydd y broses ôl gynhyrchu wedi'i chwblhau.
Mae'n ymwneud â deall bod marchnata'r cynhyrchiad yn rhan o'r gwaith cynhyrchu cysyniad ac nid ydyw y tu hwnt i'r camau cynhyrchu ffilmiau. Bydd angen ichi fod yn ymwybodol pryd byddwch yn meddu ar hawliau cymeradwyo a phryd byddwch yn meddu ar hawliau ymgynghori.
Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â dosbarthu hyd at gyflwyno'r cynhyrchiad terfynol.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n cydweithio gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau ar gyfer cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cysylltu gyda dosbarthwyr mor fuan â phosib i asesu cynnwys a straeon ar gyfer dichonolrwydd busnes
dangos sut gall gynnwys digolledu ar unrhyw fuddsoddiad dichonol
ymchwilio gwybodaeth a data sydd ar gael ar ystadegau arddangos ar gyfer prosiectau a ffurfiau tebyg
cymeradwyo ymgyrchoedd marchnata, rhagluniau, cipolygon, deunyddiau y tu ôl i'r llenni a phosteri pan fo angen
cynnig asedau i ddosbarthwyr drwy gydol y broses gynhyrchu
cast a chriw ar gytundeb i fynd i'r afael â cheisiadau hyrwyddol dosbarthwyr
mynychu marchnadoedd gydag asiantau gwerthiannau er mwyn hyrwyddo prosiectau i ddosbarthwyr dichonol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod y stori, y cynnwys a'r gynulleidfa ddichonol
- sut gall gynnwys greu elw dichonol ar fuddsoddiad
- sut i ymchwilio data arddangos er mwyn canfod hyfywdra dichonol prosiectau
- sut i ystyried goblygiadau busnes tymor byr a hirdymor
- swyddogaeth marchnata yn ystod camau cynhyrchu gan gynnwys cynhyrchu cysyniadau
- sut i ofalu caiff yr holl gyflawniadau cytundebol eu bodloni
- sut i ofalu eich bod yn hyrwyddo cynyrchiadau yn y ffordd orau posib
- gwaith dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau
- y gwahaniaethau rhwng gwerthu cynnyrch i farchnad ac i gynulleidfa
- sut i gydweithio gyda dosbarthwyr er mwyn cymeradwyo ymgyrchoedd marchnata
- pryd byddwch chi'n meddu ar hawliau cymeradwyo a phryd byddwch yn meddu ar hawliau ymgynghori.
- diben cyhoeddusrwydd a beth gall ei gyflawni a beth na all ei gyflawni
- diben rhagluniau a sut dylid eu strwythuro er mwyn cael yr effaith gorau posib
- sut i greu asedau gan gynnwys pecynnau gwasg electronig (EPK) a phecynnau y tu ôl i'r llenni at ddefnydd cwmnïau dosbarthu
- sut i gytundebu'r cast a'r criw i fynd i'r afael gyda cheisiadau hyrwyddol dosbarthwyr
- gwaith asiantau gwerthiannau a sut i adnabod pa farchnadoedd fydd orau i staff cynyrchiadau eu mynychu