Gofalu eich bod yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chodau ymarfer
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â monitro a rheoli cydymffurfio gyda rheoliadau cyfreithiol, gofynion anstatudol a chodau ymarfer. Mae'n ymwneud ag adnabod agweddau sensitif a chynhennus cynyrchiadau a gweithredu'n briodol ynghyd â derbyn cyngor arbenigol lle'n briodol.
Mae'n ymwneud â sicrhau disgresiwn a chynnal cyfrinachedd wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif.
Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod ffynonellau gwybodaeth penodol a sut i fanteisio arnyn nhw.
Bydd hefyd angen ichi fod yn ymwybodol o reoliadau yn ymwneud â defnyddio gwasanaethau pleidleisio a chystadlaethau cyfradd premiwm ar gyfer unrhyw raglenni byw neu raglenni wedi'u recordio.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer pawb sy'n gweithio ar gynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod cynnwys deunyddiau cynhyrchu yn cydymffurfio gyda rheoliadau cyfreithiol a chodau ymarfer perthnasol
- adnabod cynnwys a all dorri codau neu systemau graddio
- adnabod a chyfeirio unrhyw agweddau sensitif neu gynhennus o ddeunydd cynyrchiadau i'r bobl briodol
- derbyn cyngor arbenigol pan rydych yn ansicr a ydy deunydd cynhyrchu yn gyfreithlon neu'n cydymffurfio gyda chodau ymarfer
- cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- gweithredu'n briodol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a diogelu diddordebau cynyrchiadau, pan fo methiant i gydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol neu anstatudol
- cadarnhau eich bod wedi gweithredu'r camau angenrheidiol er mwyn gofalu bod rhyngweithiad y cyhoedd gyda chynyrchiadau yn bodloni'r rheoliadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau ymarfer cyfreithiol, moesol a moesegol ar gyfer cynnwys cynyrchiadau gan gynnwys codau ymarfer darlledwyr, rheoleiddwyr a ffilmiau
- deddfwriaeth amrywioldeb a chydraddoldeb
- rheoliadau cyflogaeth a chytundebol perthnasol fel y ddeddfwriaeth hawl i weithio, rheoliadau amser gweithio a rheoliadau plant sy'n berfformwyr
- sut i adnabod gwybodaeth sy'n sensitif i gynyrchiadau a phobl a gweithdrefnau cyfundrefnol i'w gweithredu
- gofynion gohebu perthnasol
- goblygiadau deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â Diogelu Data
- deddfwriaeth gyfredol yn ymdrin â gwasanaethau pleidleisio a chystadlaethau cyfradd premiwm ar gyfer rhaglenni byw neu raglenni wedi'u recordio.
- rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
- codau a systemau graddio yn y DU a thramor
- amser a lleoliad darlledu neu arddangos, er mwyn gofalu na chaiff y rheoliadau eu torri
- defnydd llinellau ffôn cyfradd premiwm ar gyfer gwasanaethau pleidleisio a chystadlaethau
- gofynion cyfreithiol a moesegol ar gyfer rhyngweithiad y cyhoedd â'r cynhyrchiad
- ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol pellach a sut i fanteisio arnyn nhw