Caniatâd ar gyfer deunyddiau hawlfraint

URN: SKSP7
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio a chysylltu gyda pherchnogion hawlfraint a derbyn caniatâd o dan gyfarwyddyd y cynhyrchwyr. Mae'n ymwneud â chynnal gwiriadau i ofalu nad ydy enwau'r cymeriadau yn debyg i enwau pobl go iawn a chynnal a chadw cofnodion cywir o'r holl gytundebau.

Gall y gweithiau gynnwys gweithiau llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig. Gall hefyd ymwneud â recordiadau sain, ffilmiau, darllediadau, chwaraeon, rhaglenni lloeren a chebl a chynyrchiadau wedi'u cyhoeddi. Mae'r Safon hon hefyd yn ymdrin â gweithiau wedi'u darlledu neu eu cyhoeddi ar y we.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am dderbyn caniatâd ar gyfer deunyddiau hawlfraint fel Cydlynwyr Cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​egluro pa hawliau a thiriogaethau sydd angen caniatâd amdanyn nhw ar gyfer darlledwyr a chyd-arianwyr
  2. adnabod sut mae rheoliadau hawlfraint yn effeithio ar y defnydd o ddeunyddiau
  3. ymgynghori gyda phobl berthnasol a bwrw golwg ar ddogfennau i adnabod pa ddeunyddiau y mae angen derbyn caniatâd amdanyn nhw, y cyd-destun ar gyfer eu defnyddio a'r graddau y cant eu defnyddio

  4. defnyddio ffynonellau priodol i adnabod y ffynhonell hawlfraint

  5. cysylltu gyda pherchnogion a deiliaid trwyddedau i dderbyn eu telerau, amodau a'r costau tebygol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
  6. derbyn gwybodaeth a chyngor gan ffynonellau arbenigol pan fo deunyddiau yn amodol ar reoliadau hawlfraint cymhleth neu anarferol 
  7. derbyn caniatâd a hawliau fel y cytunwyd arnyn nhw gyda chynhyrchwyr
  8. cynnal gwiriadau i ofalu nad ydy enwau, cyfeiriadau, statws proffesiynol ac enwau busnes y cymeriadau yn debyg i fanylion pobl go iawn
  9. cadw cofnodion cywir o'r holl ganiatâd, a'u cytundebau a'r holl wiriadau enwau i'w cyflwyno i gynhyrchwyr, darlledwyr neu gyd-arianwyr
  10. cadarnhau caniatâd gydag adrannau cyfreithiol darlledwyr, stiwdios ac arianwyr pan fo'n ofynnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol fathau o hawlfraint a pha ddeunyddiau maen nhw'n berthnasol iddyn nhw
  2. gofynion hawlfraint a chytundebol sy'n berthnasol i'r defnydd o ddeunyddiau perchnogol o lyfrgelloedd a gan ffynonellau allanol eraill   
  3. pobl i ymgynghori gyda nhw a dogfennau i fwrw golwg arnyn nhw ynghylch gofynion hawlfraint gan gynnwys sgriptiau, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr
  4. sut i adnabod graddau defnydd gan gynnwys deunyddiau sain, deunyddiau gweledol a hyd o ran amser a gwybodaeth gyflawn a chywir ynghylch unrhyw ddarnau cerddorol sydd eu hangen
  5. pobl sy'n berchen ar hawlfraint ffynonellau gwybodaeth
  6. hawliau, tiriogaethau a chaniatâd sy'n ofynnol gan y darlledwr a'r holl bartïon
  7. beth sydd angen ymdrin ag o wrth drin a thrafod telerau ac amodau defnyddio deunydd hawlfraint
  8. sut mae defnyddio deunyddiau yng nghyd-destun y rhaglen yn effeithio ar reoliadau hawlfraint
  9. cyfraddau derbyniol ar gyfer ffioedd hawlfraint
  10. ffynonellau gwybodaeth ar gymdeithasau proffesiynol y dylech chi dderbyn caniatâd am wiriadau enwau ganddyn nhw
  11. y gwahaniaethau rhwng caniatâd ar gyfer cerddoriaeth deitl a cherddoriaeth ddigwyddol
  12. sut i gynnal a chadw dogfennau cywir am yr holl ganiatâd, cytundebau a gwiriadau enwau
  13. sut i gadarnhau bod yr holl ganiatâd wedi'u derbyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP7

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Hawlfraint, Cyfreithiol, Caniatâd