Adnabod a thrin a thrafod materion hawlfraint
URN: SKSP6
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gofalu caiff materion hawlfraint yn ymwneud â'r holl ddeunyddiau perthnasol eu hadnabod a'u cytuno cyn mynd ati i gynhyrchu.
Mae'n ymwneud â gofalu bod systemau mewn grym fel caiff materion hawlfraint yn ymwneud ag archifau, eiddo deallusol a cherddoriaeth eu monitro drwy gydol y broses cynhyrchu.
Mae'r Safon hon yn arbennig i'r rheiny sydd ynghlwm ag adnabod a thrin a thrafod materion hawlfraint gan gynnwys Rheolwyr Cynhyrchu a thimau cyfreithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn adnabod y ffynonellau deunyddiau gwreiddiol mewn cynyrchiadau a all fod yn amodol ar hawlfraint
- asesu'r defnydd o ddeunyddiau yn erbyn rheoliadau hawlfraint cyfredol
- cael gwybodaeth a chyngor gan ffynonellau arbenigol pan fo deunyddiau yn amodol ar reoliadau hawlfraint cymhleth neu anarferol
- cytuno ar delerau, amodau a graddau defnydd o ddeunyddiau hawlfraint gyda pherchnogion hawlfraint neu ddeiliaid trwyddedau
- cadarnhau bod telerau, defnydd a chost deunydd hawlfraint yn bodloni gofynion cynhyrchu, oddi fewn y gyllideb ac yn gyson â chyfraddau safonol y diwydiant
- gwirio bod caniatâd hawlfraint wedi'u derbyn gan y bobl briodol,
- gofalu bod caniatâd wedi'u derbyn o fewn y graddfeydd amser ynghlwm â'r gwaith cynhyrchu a bod y taliadau oddi fewn y gyllideb
- cadarnhau bod cofnodion cywir o ganiatâd hawlfraint wedi'u cadw yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
- awgrymu deunyddiau amgen cliriadwy a rhatach pan nad ydy hi'n bosib ichi dderbyn caniatâd hawlfraint ar gyfer deunyddiau gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod deunyddiau gyda hawlfraint, ynghyd â ffynhonnell a pherchennog y deunyddiau
- sut i fanteisio ar ffynonellau cyngor arbenigol ynghylch hawlfraint
- y gwahanol fathau o hawlfraint a'r math o ddeunyddiau maen nhw'n berthnasol iddyn nhw
- yr hawliau, y tiriogaethau a'r caniatâd sy'n ofynnol gan y darlledwyr a'r holl bartion
- pa faterion dylid ymdrin â nhw mewn trafodaethau gyda pherchnogion hawlfraint a deiliaid trwyddedau ynglŷn â’r amodau ynghlwm â defnyddio deunyddiau hawlfraint
- sut gall y defnydd o ddeunydd o ac mewn gwledydd eraill effeithio ar reoliadau hawlfraint
- cyfraddau derbyniol ar gyfer ffioedd hawlfraint
Cadwyn Teitl, lle'n briodol ar gyfer ffilmiau nodwedd
cyfreithiau hawlfraint ac eiddo deallusol fel sy'n berthnasol i gynyrchiadau Ffilm a Theledu
- prosesau cyfundrefnol ar gyfer cadw caniatâd hawlfraint
- ble i fanteisio ar ffynonellau amgen o ddeunyddiau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSP6
Galwedigaethau Perthnasol
Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3416
Geiriau Allweddol
Hawlfraint, Caniatâd, Cyfreithiol