Sicrhau adnoddau ariannol ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu

URN: SKSP5
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymdrin â'r gweithdrefnau a ddefnyddir i sicrhau cyllid ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae angen ichi adnabod pa ffynonellau sydd ar gael yn realistig ichi a/neu'r cwmni cynhyrchu. Gall hyn olygu nawdd, gosod cynnyrch neu bropiau, cyllid tyrfa, egwyliau treth, cymhellion ariannol cenedlaethol neu ranbarthol neu gyfamodau cydgynhyrchu.

Bydd angen ichi wybod sut i gyllidebu cynhyrchiad a bod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd toriadau i’r gyllideb gychwynnol yn orfodol.

Gallai'r adnoddau ariannol fod ar gyfer cyllid datblygu a/neu gyllid am ran o'r cynhyrchiad neu'r holl gynhyrchiad yn dibynnu ar yr amgylchiadau a chyfyngiadau mewn grym.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â dod o hyd i gyllid ar gyfer cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso'r holl dystiolaeth sydd ar gael er mwyn gofalu bod yr holl gostiadau  a ragamcanwyd

  2. seilio penderfyniadau ynghylch sicrhau adnoddau ariannol ar wybodaeth ariannol sydd ar gael a gofynion cynhyrchu

  3. ymgynghori gydag arbenigwyr ar adegau priodol er mwyn gwirio manylion cynhyrchu
  4. defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy er mwyn ymchwilio ac adnabod buddsoddwyr dichonol a ffurfiau perthnasol o gyllid ar gyfer cynyrchiadau
  5. adnabod egwyliau teth dilys a chymelliadau ariannol y gall y cwmni cynhyrchu fanteisio arnyn nhw
  6. cydweithio gyda chwmnïau cydgynhyrchu dichonol ar adegau priodol er mwyn ennill cyllid y tu hwnt i'r DU
  7. rhagnodi meini prawf a gweithdrefnau i gydymffurfio gyda nhw er dibenion argyfyngau yn unol â gofynion cyfundrefnol
  8. gwirio y caiff yr holl ddogfennau angenrheidiol yn berthnasol i gynyrchiadau wedi'u cynllunio eu cyflwyno yn unol â gofynion cyfundrefnol 
  9. llunio achos ar gyfer cyllid sy'n hyrwyddo dealltwriaeth ac amlygu manteision clir i fuddsoddwyr
  10. adnabod agweddau o'r gyllideb gellir eu trin a thrafod neu eu hepgor er mwyn medru ennill cyllid 
  11. gwirio bod unrhyw gynigion cyllid yn bodloni amcanion a thargedau wedi'u cynllunio a'u bod yn unol â thariffau darlledwyr penodol
  12. trin a thrafod trefniadau ariannol a hawliau cynhyrchu er mwyn sicrhau'r cytundeb gorau ar gyfer cynyrchiadau a'r cwmni cynhyrchu
  13. cadw a chynnal cofnodion ar yr holl gytundebau yn unol â'r gofynion cyfundrefnol
  14. cysylltu gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau i fanteisio ar eu harbenigedd ar hyfywdra o ran y farchnad a'r gynulleidfa mor fuan â phosib
  15. cynnwys gwybodaeth ddilys am hyfywdra'r farchnad a'r gynulleidfa mewn pecynnau cyllid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i werthuso cyllideb gychwynnol gan ddefnyddio adnoddau'r diwydiant a chyfrifiadau cywir o'r costau
  2. y prif ffynonellau a’r amrywiaeth o fuddsodiadau sydd ar gael yn y sector priodol
  3. y prif ffynonellau ac ystodau buddsoddi sydd ar gael yn y sector priodol
  4. pryd a sut i osod cynnyrch a phropiau er mwyn ariannu cynyrchiadau  
  5. pryd a sut i ddefnyddio nawdd er mwyn ariannu cynyrchiadau
  6. pryd a sut i ddefnyddio cyllid tyrfa er mwyn ariannu cynyrchiadau
  7. egwyliau treth a chymelliadau ariannol sydd ar gael i gynyrchiadau
  8. sut i adnabod lle mae ffynonellau cyllid y tu hwnt i'r DU yn bodoli ar gyfer cydgynyrchiadau dichonol
  9. sut mae cytundebau cydgynhyrchu yn gweithredu
  10. y gwahanol dariffau y bydd darlledwyr yn eu cynnwys ar gynyrchiadau
  11. sut i drin a thrafod hawliau a pha agweddau o'r gyllideb gallwch eu hepgor er mwyn ei diogelu
  12. galwadau artistig a’r gynulleidfa y gall prosiectau geisio eu cyflawni  
  13. sut i amcangyfrif y graddfeydd amser, galwadau technegol a'u goblygiadau yn ymwneud ag amserlenni cynyrchiadau a'r cyllidebau er mwyn medru mynd ati i lunio cynigion llawn
  14. pwysigrwydd meddu ar a medru gwneud defnydd o gynlluniau mewn argyfwng o ran cyllid
  15. sut i baratoi a chyflwyno rhesymeg glir i fuddsoddwyr neu bartneriaid dichonol ar gyfer cyllid
  16. strategaethau trin a thrafod i'w defnyddio wrth gytuno ar drefniadau ariannol
  17. sut i ymchwilio ffynonellau a buddsoddiadau ac adnabod y rhai mwyaf priodol i fanteisio arnyn nhw
  18. sut i gysylltu gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau mor fuan â phosib er mwyn asesu'r prosiect o ran hyfywdra'r farchnad a'r gynulleidfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Cyfrifeg a chyllid, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu, Cynorthwyydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Cynhyrchiad, Cyllid, Adnoddau, Cymhellion