Paratoi rhagamcaniadau ariannol o ran adnoddau ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r gweithdrefnau ynghlwm â pharatoi'r gofynion cychwynnol o ran adnoddau ariannol ar gyfer cynhyrchiad yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu.
Bydd angen ichi lunio cynllun ariannol arfaethedig realistig gan ddwyn i ystyriaeth anghenion a dymuniadau'r tîm creadigol.
Bydd angen ichi wybod sut i gyllidebu cynhyrchiad, a bod yn ymwybodol mae'n bosib caiff cyllidebau gwreiddiol eu cwtogi.
Bydd angen i'r Cynllun Ariannol adlewyrchu pwy sy'n gyfrifol am ba feysydd y llif-arian a pha feysydd sydd i'w bodloni gan ffynonellau buddsoddi penodol. Fe all yr adnoddau ariannol fod ar gyfer cyllid datblygu a/neu gyllid ar gyfer rhan o'r cynhyrchiad neu'r cynhyrchiad cyfan yn dibynnu ar yr amgylchiadau a'r cyfyngiadau.
Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag ariannu cynyrchiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrifo'r costau ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn bodloni'r syniadau arfaethedig wedi'u gosod gan y timau creadigol
- gwerthuso'r holl dystiolaeth sydd ar gael er mwyn gofalu bod y costau arfaethedig yn gywir
- gwneud penderfyniadau priodol ar sail gwybodaeth ariannol a gofynion y cynhyrchiad
- ymgynghori gydag arbenigwyr er mwyn gwirio manylion cynyrchiadau pan fo'n ofynnol
- rhagnodi meini prawf a gweithdrefnau o ran argyfyngau sy'n bodloni gofynion y cynhyrchiad
- gwirio caiff yr holl ddogfennau angenrheidiol yn ymwneud â chynyrchiadau wedi'u cynllunio eu cyflwyno yn unol â'r gofynion cyfundrefnol
- adnabod agweddau'r gyllideb y mae modd eu trin a thrafod neu eu hildio er mwyn sicrhau cyllid
- gwirio bod unrhyw gynigion cyllid yn bodloni'r amcanion a thargedau wedi'u cynllunio a'u bod yn unol â'r tariffau darlledu penodol check that any funding proposals meet planned
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i lunio cyllideb gychwynnol gan ddefnyddio adnoddau a chyfrifiadau cywir o'r costau
- y prif ffynonellau ac ystodau o fuddsoddiad sydd ar gael yn y sector priodol
- egwyliau treth a chymhellion sydd ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
- y gwahanol dariffau mae darlledwyr yn eu gosod ar gynyrchiadau
- sut i amcan graddfeydd amser, galwadau technegol a'u goblygiadau ar amserlen y a chyllideb y cynhyrchiad er mwyn paratoi cynnig llawn
- y lleiafswm o gyllid gofynnol gan ystyried amcangyfrifon y costau, gofynion adnoddau ac amserlenni amser
- sut i amcangyfrif ystod o holl gostau cynhyrchu a chyfreithiol
- pwysigrwydd meddu ar a medru manteisio ar gynllunio tuag at argyfyngau o ran cyllid
- sut i gyllidebu, lle'n briodol, ar gyfer cynnwys aml-lwyfan